HAMER, Syr GEORGE FREDERICK (1885-1965), diwydiannwr a gŵr cyhoeddus;
g. 19 Mawrth 1885, yn fab i Edward a Martha (g. Matthews) Hamer, Summerfield Park, Llanidloes, Tfn. Cafodd ei addysg yn ysgol ramadeg y dref honno, ac yn 1902 ymunodd â staff ffyrm ei dad, Edward Hamer a'i Gwmni, amaethwyr ar raddfa helaeth ac arloeswyr ym masnach cig oen Cymreig a gyflenwodd ofynion y teulu brenhinol dros 3 theyrnasiad. Yn 1919 daeth George yn unig berchen ffyrm o wneuthurwyr lledr ar enw'i frawd T. Pryce Hamer, a laddwyd yn Ffrainc yn Rhyfel Byd I. Pan drowyd y ffyrm yn gwmni cyfyngedig yn 1946 ef oedd cadeirydd y cyfarwyddwyr, ond pan gyfunwyd â ffyrm arall ym Meh. 1954 ymddeolodd o'r gadair a pharhau'n gyfarwyddwr. Dechreuodd ar yrfa gyhoeddus yn 1919 pan etholwyd ef ar gyngor bwrdeistref Llanidloes. Bu'n aelod tan 1954, a bu'n faer un ar ddeg o weithiau, codwyd ef yn henadur yn 1932 a chafodd ryddfraint y fwrdeistref yn 1948. Etholwyd ef ar gyngor sir Drefaldwyn yn 1929, yn henadur yn 1949, a bu'n gadeirydd yn 1951-54 ac 1956-58. Ef oedd cadeirydd pwyllgor addysg y sir, 1947-51. Bu'n ynad heddwch o 1932, a bu'n gadeirydd mainc Llanidloes a phwyllgor ynadon y sir. Ef oedd uchel siryf Maldwyn yn 1949. O'r tu allan i'r sir bu'n aelod o Gyngor Cymru, 1949-54, ac 1956-59, Cyngor Ymgynghorol Canolog Addysg Cymru, 1945-49, Cyngor Ymgynghorol B.B.C. (Cymru), 1946-49, a'r Cyd-bwyllgor Addysg Cymreig. Bu'n gadeirydd Cyngor Ymgynghorol Bwrdd Nwy Cymru ac yn aelod o'r Bwrdd Nwy, 1949-58. Bu'n llywydd Urdd S. Ioan, Cymdeithas Sgowtiaid, a Chymdeithas Caeau Chwarae sir Drefaldwyn. Bu'n aelod o lysoedd holl golegau Prifysgol Cymru ac o lys y Brifysgol ei hun, llys a chyngor A.G.C. a llys Ll.G.C., Cyngor Datblygu Gogledd Cymru, Awdurdod Heddlu Canolbarth Cymru (is-gadeirydd hefyd), Cymdeithas Ddiwydiannol Cymru (is-lywydd hefyd), a phwyllgor cyffredinol Cyngor Diogelu Cymru Wledig. Ef oedd cadeirydd Clwb Bechgyn Llanidloes o'i ddechreuad yn 1937. Ymdaflodd yn llwyr i fywyd ei gymuned yn ei holl agweddau, ond fe ddichon mai ei gyfraniad mwyaf arwyddocaol oedd yr arweiniad cadarn a galluog a roes i'r gwasanaeth addysg yng ngweithrediad Deddf Addysg Butler yn 1944. Deilliai ysbrydoliaeth ei athroniaeth addysg i'r 20fed g. oddi wrth y ddau aelod seneddol Rhyddfrydol dros sir Drefaldwyn a chwaraeodd ran arwyddocaol yn natblygiad addysg ganol ac uwch yng Nghymru yn y 19eg g. — yr Arglwydd Stuart Rendel (Bywg., 785) ac A.C. Humphreys Owen (Bywg., 376).
Pr. Sybil Dorothy Vaughan Owen (uchel siryf Maldwyn, 1958), trydedd ferch Dr. John Vaughan ac Emma Wigley (g. Davies) Owen yn eglwys Llanidloes 1 Gorff. 1920. Bu iddynt un ferch, Shirley Margaret Wynn, yr Arglwyddes Hooson. Bu Syr George f. ar 3 Chwef. 1965 a chladdwyd ef yn Llanidloes.
Awdur:
Dr James Arthur Davies, Bangor