Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



HANSON, CARL AUGUST (1872-1961), pennaeth cyntaf adran rhwymo Llyfrgell Genedlaethol Cymru; g. yn 1872 yn Oslo, Norwy. Tuag 1898 daeth i Lundain i ddilyn ei grefft fel rhwymwr llyfrau gyda J. Zaehnsdorf yn Shaftesbury Avenue. Ymhen tair bl. symudodd at gwmni enwog Riviere yn Regent Street lle y treuliodd ddeng ml. yn gloywi ei ddawn a'i brofiad ym maes atgyweirio llyfrau prin a llawysgrifau. Yn ystod y cyfnod hwn pr. Edith Gwynne (1871-1950), a chawsant bedwar o blant. Yn niwedd 1911, allan o dri ymgeisydd profiadol, fe'i penodwyd ef i drwsio ac ailrwymo yn arbennig gasgliadau Peniarth a Llansteffan o lawysgrifau a llyfrau prin a gyflwynwyd gan Sir John Williams (Bywg., 991-2) yn sail i'r Llyfrgell Genedlaethol newydd. Gan mor frau oedd llawer ohonynt, datblygodd Hanson ddull chwyldroadol o hollti tudalen o bapur a wnaed â llaw, a'i chyfannu drwy bastio'r ddau hanner trwch wrth dudalen o bapur glân. Felly yr achubodd ef (a chydag amser ei staff hefyd), filoedd lawer o lawysgrifau a llyfrau prin a gwerthfawr fel y gallai ysgolheigion ymchwil eu trafod heb eu niweidio ymhellach, a thrwy hynny gwelwyd cyhoeddi cyfresi o destunau llenyddol cyflawn a safonol a fu'n anhepgor i ddatblygiad ysgolheictod Cymraeg diweddar. Cydnabu Prifysgol Cymru ei gyfraniad unigryw yn 1955 pan gyflwynwyd iddo radd M.A. er anrh.

O ddyddiau'i lencyndod yn Llundain bu Hanson yn undebwr llafur brwd ac o fewn llai na blwyddyn wedi iddo gyrraedd Aberystwyth fe'i hetholwyd yn is-gadeirydd Cyngor Undebau Llafur Gogledd Ceredigion y bu'n gymorth i'w sefydlu. Ar ddiwedd Rhyfel Byd I ffurfiodd ef a'i gyfeillion gangen leol o'r Blaid Lafur, ac agor y siop fwyd gyntaf o dan nawdd y Mudiad Cydweithredol yn y dref. Cychwynnodd yn y Llyfrgell Genedlaethol ar 1 Ion. 1912 a daliodd ati i weithio tan 30 Meh. 1959 ac yntau'n 87 oed! Bu f. 26 Medi 1961 a chladdwyd ef ym mynwent Eglwys Llangorwen, Clarach.

Llyfryddiaeth:

  • Gwybodaeth bersonol.

Awdur:

Dr David Jenkins, C.B.E., M.A., D.Litt., (1912-2002), Penrhyn-coch, Aberystwyth