Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



HARKER, EDWARD (‘Isnant ’; 1866-1969), chwarelwr, bardd a phregethwr (A); g. 9 Gorff. 1866, yn Nant-isaf (y lle y cymerodd ei enw barddol oddi wrtho), Bwlch-nant-yr-heyrn, uwchlaw Llanrwst, Dinb., y pumed o naw plentyn (5 merch a 4 mab) John a Sarah Ann Harker. Ymfudasai ei hendaid, James Harker, o sir Gaerhirfryn i weithio yng ngwaith plwm y Nant yng nghanol y 18fed g., ond yng Nghernyw y preswyliai'r teulu'n wreiddiol. Rhyw dair wythnos o addysg ffurfiol a gafodd Isnant, yn ysgol Frytanaidd Llanrwst, cyn mynd i'r gwaith plwm yn naw oed. Ymddiddorai ei dad mewn prydyddu ac yr oedd yn gymydog a chyfaill i'r bardd-deiliwr Trebor Mai (Robert Williams, Bywg., 1004) a hwnnw, meddir, a wnaeth ei siwt gyntaf i Isnant. Gan nad oedd ond 11 oed pan fu f. Trebor Mai, nid yw'n debyg iddo gael dylanwad mawr ar y llanc. Newydd sefydlu Gorsedd Geirionydd a chynnal cyfres o arwestau ac eisteddfodau blynyddol ar lan Llyn Geirionydd yr oedd Gwilym Cowlyd (William John Roberts, Bywg., 831) ac yn awyrgylch y rheini y cymerodd y llanc o ddifri at y cynganeddion, meistroli Ysgol farddol Dafydd Morganwg (David Watkin Jones, Bywg., 427-8), a chystadlu yn yr eisteddfodau.

Wedi gadael gwaith y Nant bu am 15 ml. yn gweithio yn chwarel y Graig Ddu, Blaenau Ffestiniog, a 15 ml. arall ar stad Gwydir. Wedi hynny bu'n gweithio yn chwarel Cae Coch, Trefriw. Ymddeolodd yn 1933. Cyfansoddodd lawer iawn o englynion, awdlau, cywyddau a phryddestau, gan ennill llu o wobrwyon, 3 cadair, coron, a medal aur, mewn eisteddfodau.

Cyfrannai'n gyson i golofn farddol Y Tyst a'r cylchgronau Cymraeg. Ceir emyn o'i waith yn Llawlyfr Moliant (B). Bu'n ddiacon yn eglwys (A) Ebeneser, Llanrwst, ac, wedi cau honno, yn Ebeneser, Trefriw. I ddathlu ei ganfed penblwydd yn 1966 cyhoeddodd eglwys Ebeneser, Trefriw, gyfrol o'i waith o dan y teitl Canmlwydd Isnant. Bu'n bregethwr cynorthwyol cydnabyddedig yng nghyfundeb Gogledd Arfon am flynyddoedd gan roi gwasanaeth cymeradwy i eglwysi Dyffryn Conwy.

Pr. Jennie McGreggor tuag 1910, a gwnaethant eu cartref yn y Tŷ Mawn rhwng Trefriw a Llanrwst. Merch i goediwr ar stad Gwydir oedd hi, a bu f. yn 1933. Tuag 1950 symudodd Isnant i fyw at ei nith yn Llanrwst. Yn ei flynyddoedd olaf collodd ei olwg, ond gyda'i gof eithriadol llwyddodd i arddywedyd ei gerddi i'w gyd-ddiacon, Gwilym Roberts, eu hysgrifennu. Adroddodd ei gywydd i Ddyffryn Conwy i'w nith, Daisy Roberts, a'i gŵr, pan oedd yn 98 oed. Ymfudasai dau o'i frodyr i chwilio am aur yn Denver, Colorado. Bu f. 15 Mawrth 1969, a chladdwyd ef ym mynwent gyhoeddus Trefriw.

Llyfryddiaeth:

  • Gwybodaeth gan ei nith, Daisy J. Roberts;
  • Y Tyst, 24 Ebr. 1969,
  • a'r Y Genhinen, 1969.

Awdur:

Evan David Jones, F.S.A., (1903-87), Aberystwyth