Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



HARRIS, WILLIAM HENRY (1884-1956), offeiriad ac Athro Cymraeg Coleg Dewi Sant Llanbedr Pont Steffan, Cer.; g. 28 Ebr. 1884 ym Mhantysgallog, Dowlais, Morg., mab John ac Anne Harris. Cafodd ei addysg yn ysgol sir Merthyr Tudful, a Choleg Dewi Sant, Llanbedr, lle'r enillodd ysgoloriaeth Traherne a dyfod yn brif fyfyriwr yn ogystal ag ennill gwobrau Creaton am draethodau Cymraeg a Saesneg. Graddiodd gydag anrhydedd dosbarth I yn Gymraeg, 1910, ac aeth i Goleg Iesu, Rhydychen gydag ysgoloriaeth ymchwil Meyrick; enillodd radd B.Litt. 1913 a chafodd ysgoloriaeth Powis. Yn yr un flwyddyn, enillodd radd anrhydedd dosbarth II mewn diwinyddiaeth. Cymerodd radd B.A. yn 1914 ac M.A. yn 1916. Cafodd ei ordeinio'n ddiacon yn 1913 a mynd yn gurad i Ystradgynlais. Ord. yn offeiriad yn 1914. Symudodd i Abertawe yn 1917 yn offeiriad cynorthwyol Eglwys Crist, ac i eglwys yr Holl Saint, Ystumllwynarth yn 1918. Yn 1919 penodwyd ef yn ddarlithydd mewn diwinyddiaeth yng Ngholeg Dewi Sant, Llanbedr, a pharhaodd yn y swydd nes ei godi'n Athro diwinyddiaeth yn 1940. Penodwyd ef yn bencantor yn 1933, yn ganon Tyddewi yn 1937 ac yn drysorydd yn 1948. Ei benodiad yn Athro Cymraeg y coleg yn 1941 a roes fwyaf o fwynhâd iddo. Mae lle i gredu iddo gael ei siomi o beidio â chael y gadair yn gynharach yn ei yrfa.

Yr oedd yn un o syflaenwyr Cymdeithas Dewi Sant, a gychwynnwyd i feithrin a chadarnhau catholigrwydd yr Eglwys yng Nghymru. Credai'n ddiysgog yn y ffydd gatholig a'r offeiriadaeth gysegredig, ac ni allai oddef unrhyw wrthwynebiad i'w safbwynt. Daeth cylchgrawn y gymdeithas St. David's Chronicle yn fwy adnabyddus fel Y Ffydd yng Nghymru; The Faith in Wales. Yn 1931 cyhoeddodd bamffledi ceiniog ar Yr Eglwys Gatholig a Gweinidogaeth yr Eglwys. Cyhoeddwyd ei esboniadau ar y Proffwydi Lleiaf gan yr S.P.C.K. dros Undeb Ysgolion Sul esgobaethau Cymru rhwng 1919 ac 1924. Ysgrifennodd ar y Gwyrthiau yn y Geiriadur Beiblaidd (1926).

Yr oedd yn dra gwybodus mewn cerddoriaeth eglwysig, a bu'n aelod o bwyllgor Emynau'r Eglwys (1941 ac 1951) o'r cychwyn yn 1934, ac yn ysgrifennydd o 1937 ymlaen. Cynnwys y gyfrol ei gyfieithiadau o emynau Lladin a Groeg, yn ogystal ag o'r Saesneg. Y mae ganddo un emyn gwreiddiol, rhif 246. Achosodd y llyfr hwn gryn anghydfod oherwydd ei ogwydd eithafol gatholig.

Yr oedd yn aelod o'r Comisiwn Litwrgïaidd a sefydlwyd i ddiwygio'r Llyfr Gweddi Gyffredin; yn rheolwr Cwmni'r Llan a'r Wasg Eglwysig ac yn aelod o bwyllgor Gwasg y Dalaith. Cyfiethodd The Office of Compline i'r Gymraeg, fel Cwmplin: Gwasanaeth diwedydd (1941).

Arthan’ oedd ei enw barddol yng Ngorsedd y Beirdd. Cymerai ddiddordeb ymarferol mewn Esperanto, fel iaith i Gynghrair y Cenhedloedd, a chychwynnodd ddosbarth i'w dysgu yn y coleg yn 1920. Yn 1956, wedi ei farw, cyhoeddwyd ei argraffiad diwygiedig o Agoriad neu allwedd i'r iaith gyd-genedlaethol Esperanto gan G. Griffiths. Cyfrannodd aelodau cymdeithas Gymraeg Coleg Dewi Sant tuag at y gost o'i gyhoeddi.

Yr oedd yn bregethwr cymeradwy, yn denu cynulleidfaoedd i Dyddewi yn ystod ei dymor yno fel canon. Bu'n bregethwr arbennig ddwywaith yn ngŵyl Gymraeg S. Paul, Llundain. Gŵr gwelw, afiach yr olwg, ydoedd a'i lygaid yn wanllyd. Eto, ysgrifennai'n helaeth i'r cyfnodolion a'r wasg eglwysig. Ar wahân i'w ddaliadau crefyddol anghymodlon, yr oedd yn ŵr cwrtais a charedig, yn meddu ar hiwmor annisgwyl. Pr. yn 1924 â Dorothy Clough [bu f. 22 Medi 1980] a bu ganddynt ddwy ferch. Bu f. mewn ysbyty yn Llundain, 23 Ion. 1956, yn 72 mlwydd oed, a chladdwyd ef ym mynwent Ruislip, Middlesex.

Llyfryddiaeth:

  • Y Llan, 2 Chwef. 1956;
  • Church Times 27 Ion. 1956;
  • Welsh Church Year Book, 1929;
  • WwW (1933);
  • Emynau'r Eglwys, 1951.

Awdur:

Mrs. Mary Gwendoline Ellis, M.A., Aberystwyth