Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



HAVARD, WILLIAM THOMAS (1889-1956), esgob; g. 23 Hyd. 1889 yn Neuadd, Defynnog, Brych., 3ydd mab William Havard, diacon yn y Tabernacl (A), Defynnog, a Gwen ei wraig. Cafodd ei addysg yn ysgol sir Aberhonddu; Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth (graddiodd yn B.A. gydag anrhydedd 3ydd dosbarth mewn hanes yn 1912); Coleg S. Mihangel, Llandaf; Coleg Iesu, Rhydychen (M.A.) 1921. Urddwyd ef yn ddiacon gan John Owen (Bywg., 672-3) esgob Tyddewi, yn 1913, ac yn offeiriad yn 1914. Bu'n gurad Llanelli, 1913-15. Rhwng 1915 ac 1919 bu'n gaplan yn y lluoedd arfog. Enwyd ef mewn cadlythyrau, 1916, a dyfarnwyd iddo'r M.C., 1917. Bu'n gaplan Coleg Iesu, Rhydychen, 1919-21, curad Aberhonddu, 1921-22, ficer St. Paul-at-Hook, 1922-24, ficer St. Luke, Battersea, 1924-28, ficer Santes Fair, Abertawe, 1928-34, canon yng nghadeirlan Aberhonddu, dwyrain Gŵyr, 1930-34. Cysegrwyd ef yn Esgob Llanelwy, Medi 1934, wedi i A.G. Edwards (Bywg., 171) ymddeol. Ar ôl 16eg ml. yno penodwyd ef yn 1950 yn Esgob Tyddewi. Bu f. 17 Awst 1956. Claddwyd ef yn Aberhonddu.

Bu'n bregethwr dethol prifysgol S. Andrew, 1943, Caergrawnt, 1946, ac yn 1951 bu'n ymwelydd-ddarlithydd ym Mhrifysgol Yale. Bu'n gadeirydd cyngor addysg yr Eglwys yng Nghymru, ac yn ymwelydd i Goleg Dewi Sant, Coleg Llanymddyfri, Coleg y Drindod, Caerfyrddin a Choleg S. Ioan, Ystrad Meurig. Cymerodd ran flaenllaw ym mudiad addysg grefyddol yn yr ysgolion. Gweithiodd i geisio gwell cydweithrediad rhwng yr Eglwys yng Nghymru a'r Anghydffurfwyr. Magwyd ef yn Annibynnwr a bu'n aelod yng nghapel yr Annibynwyr yn Baker Street, Aberystwyth, o 1908 i 1911, ac wedi graddio yng Ngholeg y Brifysgol yr ymunodd â'r eglwys esgobol. Yr oedd yn bregethwr grymus yn Gymraeg a Saesneg, a gwahoddwyd ef yn aml i bregethu yn y gwasanaethau yr arferid eu darlledu y Sul o flaen yr Eist. Gen.

Enillodd fri fel chwaraewr rygbi yn Aberystwyth a chafodd ei gap am chwarae dros Gymru yn erbyn Seland Newydd yn 1919. Enillasai ei ‘las’ am chwarae rygbi yn Rhydychen.

Pr. yn 1922 â Florence Aimèe Holmes, merch Joseph Holmes, Pen-y-fai, Llanelli, a bu iddynt 2 fab a 2 ferch.

Llyfryddiaeth:

  • Www;
  • Yr Haul, Hyd. 1956;
  • Carm. Jnl., 24 Awst 1956;
  • gwybodaeth gan y teulu.

Awdur:

Mrs. Mary Gwendoline Ellis, M.A., Aberystwyth