HAYCOCK, (BLODWEN) MYFANWY (1913-1963), artist ac awdur;
g. yng Nglyndŵr, Mount Pleasant, Pontnewynydd, Myn., 23 Mawrth 1913, yr ieuangaf o dair merch James David Haycock, glöwr (a adweinid yn lleol fel Jim Pearce) ac Alice Maud (g. Perry), y ddau'n enedigol o Fyn. Addysgwyd hi yn ysgol elfennol Cwm-ffrwd-oer, ysgol ramadeg merched Pont-y-pŵl, Coleg Technegol Caerdydd (y coleg celf yn ddiweddarach). Ymwrthododd â gyrfa fel athrawes celf a chymerodd at newyddiaduraeth rydd ar gyfrif ei medr fel darlunydd mewn du a gwyn, a'i llwyddiant gyda thelyneg Saesneg yn Eist. Gen. Aberafan yn 1932, dan feirniadaeth W.H. Davies (Bywg., 150). O'r fl. 1936 ymddangosodd ei cherddi a'i storïau, wedi eu darlunio gyda dyluniadau sgrafwrdd yn y Western Mail a phapurau a chylchgronau eraill. Pan dorrodd Rhyfel Byd II allan aeth yn glerc cyflogau mewn ffatri cad-ddarpar, yna'n eu tro yn swyddog lles cynorthwyol mewn ffatri mewn ardal slymiau yng Nghaerdydd, athrawes, a swyddog hysbysrwydd i'r Institute of Agriculture ym Mrynbuga. Yn 1943 ymunodd â'r B.B.C. yn Llundain: darlledwyd dwy o'i dramâu radio a darllenwyd ei cherddi ar yr awyr. Wedi gadael y B.B.C. yn 1945 bu'n llwyddiannus mewn newyddiaduraeth yn Llundain, gan ysgrifennu erthyglau a cherddi, darlunio llyfrau, cynllunio cardiau Nadolig, a dod yn aelod o gyngor y Society of Women Journalists. Yng Ngorff. 1947 pr. Arthur Merion Williams o'r Borth (anaesthetigydd ymgynghorol i ysbyty sir Redhill a grŵp ysbytai dwyrain Surrey) yng nghapel Presbyteraidd Llanofer, a byw wedyn yn Buckland, ger Reigate, lle y magodd eu tri phlentyn. Ar waethaf afiechyd cynyddol parhaodd i ysgrifennu a darllen ei cherddi yn aml ar y teledu. Bu f. 9 Tach. 1963. Ei phedair cyfrol cyhoeddedig oedd: Fantasy and other poems (1937), Poems (1944), More poems (1945) ac wedi ei marw, Mountain over Paddington (1964). Yr oedd yn fardd argraffiaethol rhugl, ‘her imagery often touched with elfin whimsicality’ meddai A.G. Prys-Jones, a defnyddiai ffurfiau traddodiadol gydag effaith sydd ar dro'n adleisio W.H. Davies. Galwodd Wil Ifan hi'n ‘ail lais Gwent’ yn 1940.
Llyfryddiaeth:
- W. J. T. Collins, Monmouthshire writers (1945);
- Some contemporary Anglo-Welsh writers, Llyfrgell Dinas Caerdydd (1941);
- West. Mail, 14 Tach. 1963;
- gwybodaeth gan Miss Gwladys Haycock.
Awdur:
Roland Glyn Mathias, Aberhonddu