HEMP, WILFRID JAMES (1882-1962), hynafiaethydd;
g. 27 Ebr. 1882 yn Richmond, Surrey, unig blentyn James Kynnerly Hemp a'i wraig Alice Challoner (g. Smith), Pr. ei chwaer hi â J. Lloyd-Jones, rheithor Cricieth 1883-1922, a thrwy hynny cafodd Hemp gysylltiad â gogledd Cymru, a threuliodd ei wyliau haf yn sir Gaern. Addysgwyd ef yn ysgol Highgate, Llundain, a'i benodiad cyntaf oedd yn y Principal Probate Registry, yn Somerset House. Ei ddiddordebau pennaf oedd hanes, achyddiaeth a herodraeth; fe'i hetholwyd yn F.S.A. yn 1913, a'r un flwyddyn ymunodd â'r Weinyddiaeth Gweithiau Cyhoeddus fel arolygwr Henebion Cymru ac ysgrifennydd y Bwrdd Henebion. Ar ôl gwasanaeth byr yn y fyddin yn ystod Rhyfel Byd I, ymddiriedwyd iddo'r gwaith pwysig o arolygu atgyweirio cestyll gogledd Cymru — Beaumaris, Caernarfon, Harlech, Dinbych ac Ewlo; cloddio ac atgyweirio beddau megalithig yr oes Neolithig-Capel Garmon, Clwyd; Bryn Celli Ddu a Bryn yr Hen Bobl, Môn. Ar yr un pryd ysgrifennai adroddiadau a chyfarwyddiaduron ar y rhain ac ar lawer testun arall. Yn 1928 fe'i penodwyd trwy Warant Frenhinol yn ysgrifennydd y Comisiwn Brenhinol ar Henebion Cymru a Mynwy, a gyhoeddodd gyfrol ar henebion Môn yn 1937. Gohiriwyd y gwaith ar gyfrol sir Gaernarfon oherwydd Rhyfel Byd II, ac ymddeolodd Hemp yn 1946. Ymunodd â Chymdeithas Hynafiaethau Cymru yn 1911 a bu'n llywydd arni 1955-56. Ysgrifennodd lawer o erthyglau i Arch. Camb. (y mae rhestr o dros gant yn y Mynegai) ac i gyhoeddiadau eraill. Gwasanaethodd ar lu o bwyllgorau yng Nghymru. Cafodd radd M.A. er anrh. gan Brifysgol Cymru yn 1932. Yr oedd yn awdurdod ar herodraeth Gymreig, ac un o'r nifer bychan o hynafiaethwyr a osododd astudiaeth gynhanesyddol Cymru ar sylfaen ddilys yn rhan gyntaf yr ugeinfed ganrif. Pr., 1934, Dulcia, merch Richard Assheton. Yn 1939 aeth i fyw i Gricieth, ac yno y bu f. 14 Ebr. 1962.
Awdur:
Colin Alistair Gresham (1913-89), Cricieth