HUGHES, ARTHUR (1878 - 1965), llenor

Enw: Arthur Hughes
Dyddiad geni: 1878
Dyddiad marw: 1965
Priod: H.M. Hughes
Plentyn: Irma Hughes
Rhiant: Annie Harriet Hughes (née Jones)
Rhiant: John Hughes
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: llenor
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Richard Bryn Williams

Ganwyd 2 Ionawr 1878 ym Bryn Melyn, ger Harlech, Meironnydd, yn fab i John Hughes Jones, meddyg yn Clwt y Bont, Sir Gaernarfon, a roes heibio'r cyfenw 'Jones'. Ei fam oedd Annie Harriet Hughes, (Gwyneth Vaughan, y nofelydd. Bu'n ' ysgolor Cymraeg ' yng Ngholeg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan, ac enillodd radd yno. Ef oedd golygydd dwy gyfrol a fu'n werthfawr iawn i efrydwyr, sef Cywyddau Cymru (1908) a Gemau'r Gogynfeirdd (1910). Cyhoeddwyd ei gyfieithiad o un o weithiau Drummond, Y Ddinas heb ynddi deml (1904). Hon oedd yr ail gyfrol o weithiau Drummond a olygwyd gan Gwyneth Vaughan.

Bu farw ei fam yn 1910, a'r flwyddyn ddilynol ymfudodd i'r Wladfa ym Mhatagonia dan nawdd Eluned Morgan, a hynny yn bennaf oherwydd dioddef o afiechyd ar y nerfau. Cafodd gartref am amser maith ar aelwyd Barbara Llwyd (Mrs. J.O. Evans). Yna bu'n cadw 'batch', sef bwthyn gŵr dibriod, nes iddo ar 10 Ionawr 1918 briodi gwraig weddw, y Fones H.M. Durrouzet, merch Erw Fair ac ŵyres i'r Br. W.E. Williams, sefydlydd ardal Treorci yn Nyffryn Camwy. Bu iddynt dair merch, dwy yn feirdd da, ac un o'r rhain, Irma, yn gadeirfardd eisteddfod y Wladfa ac yn olygydd Y Drafod.

Pan aeth yn drwm ei glyw, ciliodd o fywyd cyhoeddus, gan fyw yn feudwyaidd ymysg ei lyfrau. Bu ei ddylanwad yn fawr ar feddwl a diwylliant Cymraeg y Wladfa, fel ysgolhaig, llenor, bardd a thelynor, ond ei gyfraniad pennaf oedd fel beirniad llenyddol. Bu farw 25 Mehefin 1965.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.