HUGHES, ROBERT RICHARD (1872 - 1957), gweinidog (MC) ac awdur

Enw: Robert Richard Hughes
Dyddiad geni: 1872
Dyddiad marw: 1957
Priod: Margaret Ann Hughes (née Lewis)
Rhiant: Margaret Hughes
Rhiant: Thomas Hughes
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog (MC) ac awdur
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Gomer Morgan Roberts

Ganwyd 2 Ionawr 1872 ym Mhont Myfyrian, bwthyn ar ymyl y rheilffordd nid nepell o Frynsiencyn a'r Gaerwen, Môn, mab Thomas a Margaret Hughes. Cafodd addysg yn ysgol Frytanaidd Llanidan; ysgol St. John, Porthaethwy; High School Croesoswallt; Coleg y Gogledd, Bangor (lle cafodd radd B.A. Prifysgol Llundain); a Choleg y Bala. Magwyd ef yn eglwys Brynsiencyn dan weinidogaeth John Williams; a phan alwyd y gŵr hwnnw i Lerpwl yn 1896 galwyd yntau yn olynydd iddo am dymor byr (1896-97). Ordeiniwyd ef yn 1898, a bu'n gweinidogaethu yn Ebeneser, Kingsland, Caergybi (1898-1913), Chatham St., Lerpwl (1913-22), a Niwbwrch (1922-47). Priododd, 1897, Margaret Ann Lewis o Bootle, a oedd yn wreiddiol o'r Bontnewydd, Sir Gaernarfon; ganwyd iddynt fab a merch. Cartrefodd yng Nghaergybi ar ôl ymddeol, ac yno y bu farw 23 Medi 1951. Claddwyd ef ym mynwent Maeshyfryd, Caergybi.

Yr oedd yn ŵr o ddylanwad yn ei Gyfundeb. Bu'n llywydd Sasiwn y Gogledd (1940), ac yn llywydd y Gymanfa Gyffredinol (1946). Bu'n aelod blaenllaw o Gomisiwn Ad-drefnu'r Cyfundeb, ac yn un o'r pedwar a luniodd y ' Datganiad byr ar ffydd a buchedd ' yn 1921. Bu'n gydolygydd Y Llusern am rai blynyddoedd, ac yn olygydd Y Goleuad yn 1931. Cyfrannodd ysgrifau i'r Goleuad ac i gylchgronau'i enwad. Cyhoeddodd gofiant safonol i'w hen weinidog, John Williams, Brynsiencyn, yn 1929. Traddododd y Ddarlith Davies yn 1931, ' Ymholiad i gred dyn yn ei anfarwoldeb ', ac fe'i cyhoeddodd yn 1939 dan y teitl Dyn a'i dynged.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.