JACOB, HENRY THOMAS (1864-1957), gweinidog (A), darlithydd, llenor a bardd;
g. yn Nhreorci, Cwm Rhondda, Morg., 14 Rhag. 1864, yn ail o ddeg o blant Thomas Jacob y gof ac Ann (g. Harries) ei wraig. Codwyd ef i bregethu yn eglwys Bethania, ac aeth yn 1885 i ysgol Watcyn Wyn (Bywg., 1011-2) yn Rhydaman i baratoi at goleg a chael mynd i Lancashire College, Manceinion. Pr. ar 20 Awst 1890 â Margaret Ellen Evans o Landeilo, a chawsant bump o blant, dwy ferch a thri mab. Bu'n weinidog ym Methel, Trecynon, Aberdâr, 1889-98, Peniel ger Caerfyrddin, 1898-1912, a'r Tabernacl, Abergwaun, 1912-34. Yr oedd yn bregethwr efengylaidd ei duedd, a'i ffraethineb ddarluniadol yn hoelio sylw ac yn grymuso'i genadwri. Bu'n barddoni cryn dipyn yn ei gyfnod cynnar, ac yn ysbeidiol wedyn drwy'r blynyddoedd. Yr oedd mewn cymaint bri fel darlithydd ag oedd fel pregethwr; yr oedd yn gampwr ar bortreadu hen gymeriadau, ac enynnai ddiddordeb ac edmygedd drwy'r wlad oll. Ymhlith ei ddarlithiau yr oedd ‘Stori nhad‘, ‘Yr hen goliar‘. ‘Yr hen godwr canu‘, ‘Hen gymeriadau‘, ‘General Booth‘, ‘Gwlad y dyn du‘. Ei ddidordeb yng ngwaith cenhadol yr eglwys, a'i wasanaeth iddo, oedd yn gyfrifol am y ddau lyfr hyn a ysgrifennodd Dilyn y wawr, Cofiant Hopcyn Rees. Cyhoeddodd hefyd: Caneuon y bwthyn, Hanes eglwys y Tabernacl, Abergwaun (1945), dau lyfryn o gatecismau ar gân i blant, ac Atgofion H.T. Jacob (1960). Bu ar daith yn Ne Affrica yn 1922-23, a chyfarfod y pennaeth Khama, a phregethu o'i flaen. Etholwyd ef yn is-gadeirydd Undeb yr Annibynwyr yn 1931 ond bu rhaid iddo gychwyn blwyddyn ei gadeiryddiaeth yn Ion. 1932 i orffen tymor Peter Price (gw. Atodiad isod). Bu f. ei briod yn 1950, ac yntau ar 18 Mai 1957, a chladdwyd ef ym mynwent y Tabernacl, Abergwaun.
Llyfryddiaeth:
- Atgofion H. T. Jacob (1960).
Awdur:
Y Parch Gerallt Jones (1907-84), Caerwedros, Ceinewydd