Yn ystod ei fywyd rhoddodd symiau sylweddol i'r enwadau Anghydffurfiol ac i'r Eglwys yng Nghymru i wella cyflogau a phensiynau gweinidogion, i Goleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan, i bentref Pontrhydfendigaid ac i lu o achosion eraill. Sefydlodd Ymddiriedolaeth Pantyfedwen yn 1952 a gweinyddwyd hi o Lundain. Ei phwrpas oedd hybu achosion crefyddol, addysgiadol ac elusennol yng Nghymru. Diddymwyd hon yn 1957 pan sefydlodd Ymddiriedolaeth Cathryn a'r Fonesig Grace James (a enwyd ar ôl ei fam a'i wraig). Yn 1967 sefydlodd ail Ymddiriedolaeth yn enw John (ei dad) a Rhys Thomas James (ei frawd a fu f. yn ifanc). Ddiwedd y 1950au sefydlwyd Eisteddfodau Pantyfedwen ym Mhontrhydfendigaid (Eisteddfod Teulu James), Aberteifi (Eisteddfod Coffa John James) a Llanbedr Pont Steffan (Eisteddfod Rhys Thomas James). Prif nod Syr D. J. James oedd rhoi cyfle i unigolion i gystadlu mewn eisteddfodau lle'r oedd y safon rhwng yr eisteddfodau lleol a'r genedlaethol. Bu'n ymwneud â symud gweinyddiaeth yr ymddiriedolaethau i Aberystwyth ond bu f. cyn agor y swyddfeydd yno'n swyddogol yn 1968.
Derbyniodd radd LL.D. er anrh. gan Brifysgol Cymru yn 1957, cafodd ei urddo'n farchog yn 1959, derbyniwyd ef i Urdd Wen Gorsedd y Beirdd yn 1965 a'r un flwyddyn cyflwynwyd rhyddfraint bwrdeistref Aberystwyth iddo.
Bu f. ei wraig 20 Chwef. 1963 ac yntau 7 Maw. 1967 a chladdwyd hwy ym mynwent Ystrad Fflur.
Richard Harding Morgan, Aberystwyth