JENKINS, EVAN (1895 - 1959), bardd

Enw: Evan Jenkins
Dyddiad geni: 1895
Dyddiad marw: 1959
Rhiant: Margaret Jenkins
Rhiant: Thomas Jenkins
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Eisteddfod; Barddoniaeth
Awdur: Dafydd Jones

Ganwyd 2 Mai 1895, yr ieuangaf o 8 o blant Tomos a Marged Jenkins, Tynewydd, Ffair-rhos, Ceredigion. Mwynwr oedd ei dad a gerddai'n ôl a blaen i fwynfeydd plwm y fro, gan amaethu ei dyddyn yn ei oriau hamdden. Addysgwyd Evan yn ysgol elfennol Pontrhydfendigaid, lle y derbyniwyd ef yn 1901. Yn Hydref 1909 aeth i ysgol uwchradd Tregaron, ond ni chofnodir amser ei ymadawiad. Methodd basio'r arholiad meddygol i fynd i'r fyddin yng nghyfnod Rhyfel Byd I ac ymddengys iddo fod yn gweithio mewn ffatri cad-ddarpar. Aeth i Goleg y Brifysgol yn Aberystwyth yn 1919 a graddiodd yn B.A. yn 1921. Cofnodir yn Cofiant Idwal Jones gan D. Gwenallt Jones iddo, gyda Philip Beddoe Jones, gyfansoddi cywyddau ymryson pan oeddynt yn aelodau o ddosbarth T. Gwynn Jones. Bu'n dysgu am gyfnod yn ysgolion Taliesin a Llanifhangel-y-Creuddyn. Bregus oedd ei iechyd, ac nid oedd gwaith ysgol yn dygymod ag ef. Felly cymerodd swydd ysgrifennydd Undeb Cymdeithasau Cyfeillgar Ceredigion yn 1924, a daliodd hi tan 1948.

Ef oedd prif symbylydd yr egni barddol yn ardal Ffair-rhos. Yr oedd yn aelod o dîm ymryson beirdd Ceredigion. Enillodd gadair Eisteddfod y De, Treorci, ddwywaith, coron Eisteddfod Môn, a gwobrau am delynegion, englyn, soned a chywydd yn yr Eisteddfod Genedlaethol Pan briododd ei chwaer olaf o'r hen gartre aeth i fyw gyda hi a'i phriod yn Ffynon Fawr. Rhyw flwyddyn cyn ei farw symudodd eto i gartref ei ddwy chwaer ym Minawel, ac yno, ar 2 Tachwedd 1959, y bu farw. Claddwyd ef ym medd ei frawd John yn Ystrad Fflur. Cyhoeddwyd ei gasgliad buddugol o delynegion yng nghyfrol Barddoniaeth a beirniadaethau Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, 1938, 108-18. Golygwyd a threfnwyd detholiad o'i ganeuon gan T. Llew Jones dan y teitl Cerddi Ffair Rhos (1959).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.