Fe wnaethoch chi chwilio am Cynan

Canlyniadau

JONES, Syr CYNAN (ALBERT) EVANS ('Cynan '; 1895 - 1970), bardd, dramodwr ac eisteddfodwr

Enw: Cynan (Albert) Evans Jones
Ffugenw: Cynan
Dyddiad geni: 1895
Dyddiad marw: 1970
Priod: Menna Meirion Jones (née Jones)
Priod: Ellen Jane Jones (née Jones)
Rhiant: Hannah Jane Jones (née Evans)
Rhiant: Richard Albert Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd, dramodwr ac eisteddfodwr
Maes gweithgaredd: Eisteddfod; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Perfformio; Barddoniaeth
Awdur: Thomas Parry

Ganwyd 14 Ebrill 1895, yn fab i Richard Albert Jones a Hannah Jane (ganwyd Evans), Pwllheli, Sir Gaernarfon. Cafodd ei addysg yn ysgol elfennol ac ysgol sir Pwllheli, a Choleg y Brifysgol, Bangor, lle graddiodd yn 1916. Yn yr un flwyddyn ymunoddd â'r R.A.M.C., a bu'n gwasanaethu yn Salonica ac yn Ffrainc, fel aelod o'r 86th Field Ambulance ac yn ddiweddarach fel caplan. Ar ôl y rhyfel aeth i Goleg y Bala, ac yn 1920 ordeiniwyd ef a'i sefydlu yn weinidog yr eglwys Bresbyteraidd ym Mhenmaen-mawr. Yno y bu hyd 1931, pan benodwyd ef yn diwtor yn Adran Allanol coleg Bangor, gyda chyfrifoldeb arbennig am Ynys Môn. O 1936 hyd nes ymddeol yn 1960 bu'n diwtor staff, a'i bynciau oedd drama a llenyddiaeth Gymraeg. Ond daliodd i bregethu yn gyson ar hyd ei oes.

Daeth Cynan yn amlwg iawn ym mywyd Cymru oherwydd ei gyswllt â'r Eisteddfod Genedlaethol Cymerodd y ffugenw Cynan fel aelod o Orsedd y Beirdd, ac wrth yr enw hwn yr adnabyddid ef, a defnyddiodd yntau'r enw pan urddwyd ef yn farchog. Etholwyd ef yn gofiadur yr Orsedd yn 1935, ac yn gyd-ysgrifennydd Cyngor yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1937. Ef oedd yr archdderwydd o 1950 hyd 1954 ac o 1963 hyd 1966, yr unig dro hyd hynny i neb ddal y swydd hon ddwywaith. Yn fuan ar ôl ei benodi'n gofiadur dechreuodd ddiwygio'r Orsedd. Fel gŵr a chanddo lawer iawn o synnwyr drama a phasiant gwelodd fod seremonïau'r Orsedd yn bethau a allai fod yn atyniadol iawn i'r tyrfaoedd. Aeth ati i ddwyn gwell trefn ar y gweithrediadau a'u gwneud yn fwy urddasol, gan ddwyn i mewn rai seremonïau newydd, fel y ddawns flodau. Ymwadodd â phob honiad am hynafiaeth yr Orsedd a'i chyswyllt â'r derwyddon, gan gydnabod yn agored mai dyfais a chreadigaeth Iolo Morganwg ydoedd. Llwyddodd i gael llawer o aelodau newydd, ac yn eu plith rai gwŷr academig. Yn 1935 dechreuwyd ar yr addrefnu a ddug i fod Lys a Chyngor yr Eisteddfod Genedlaethol, a bu i Cynan ran amlwg yn y gwaith. Yn 1967 etholwyd ef yn llywydd y Llys.

Bu'n amlwg iawn hefyd fel cystadleuydd yn yr Eisteddfod. Yn 1921 enillodd y goron yng Nghaernarfon am y bryddest ' Mab y Bwthyn ', cerdd am fachgen o Gymro yn rhyfel 1914-18. Gan mor amserol oedd y testun ac mor syml ac uniongyrchol oedd y mynegiant o ran mydr ac o ran arddull, daeth y bryddest yn dra adnabyddus a chymeradwy, yn fwy felly, efallai, nag unrhyw bryddest arall, na chynt nac wedyn. Yr oedd cynnwys yr ail bryddest fuddugol, 'Yr ynys unig' (yr Wyddgrug 1923), sef stori cenhadaeth y Tad Damien at y gwahangleifion, yn ei gwneud hithau'n gerdd oblogaidd, a'r drydedd ' Y Dyrfa ' (Bangor 1931), cerdd am gêm rygbi, yn beth cwbl newydd yn yr iaith. Yr oedd dylanwad beirdd Saesneg cyfoes, yn enwedig John Masefield a J. C. Squire, ar y pryddestau eisteddfodol, ond gallodd Cynan gymathu'r dylanwadau hyn mor llwyr nes peri fod rhin gwbl Gymreig i'w gerddi ef ei hun. Yn 1924 ym Mhont-y-pŵl enillodd Cynan y gadair genedlaethol am y gerdd ' I'r Duw nid adwaenir ', sy'n arbennig ac unigryw am mai ar y mesur tri thrawiad y canwyd hi; ni roed y gadair am gerdd ar y mesur hwn na chynt nac wedyn. Bu'n beirniadu lawer gwaith ar y gwahanol gystadlaethau barddoniaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol

Cyhoeddodd Cynan gasgliadau o'i waith barddonol fel y canlyn: Telyn y nos (1921); Y Tannau coll, pryddest ail-orau Eisteddfod Genedlaethol Rhydaman 1922; Caniadau Cynan (1927); Cerddi Cynan, y casgliad cyflawn (1959), yn cynnwys y cerddi eisteddfodol, baledi, telynegion, a chyfieithiadau o weithiau beirdd Saesneg (rhai ohonynt heb eu nodi). Telynegol yw naws arddull y bardd, a'r mynegiant yn gwbl uniongyrchol a digwmpas fel a ddaeth yn gymeradwy gan holl feirdd telynegol dechrau'r 20fed ganrif. Seiliwyd llawer o'i gerddi ar ei ymateb i Ryfel Byd I ac ar ei brofiad ef ei hun ohono, ac i'r gwrthwyneb cafodd gryn ysbrydiaeth yn hedd a llonyddwch gwlad Llŷn. Y mae i'r elfen storïol fwy o le yn ei waith ef nag yng ngwaith yr un bardd Cymraeg arall; canodd nifer o faledi, a storïau ar gân yw ei bryddestau. Yn 1946 cyhoeddodd un rhamant ryddiaith fer, Ffarwel weledig, am fywyd ym Macedonia.

Gwnaeth Cynan lawer iawn o waith gyda'r ddrama am flynyddoedd. Yn 1931 enillodd y wobr yn yr Eisteddfod Genedlaethol am y ddrama hir, sef Hywel Harris, a chafodd gomisiwn i ysgrifennu drama ar gyfer eisteddfod 1957, sef Absalom fy mab. Cyfaddasodd ddwy ddrama o'r Saesneg, Lili'r Grog (John Masefield), a Hen ŵr y mynydd (Norman Nicholson), a berfformiwyd gyntaf ar daith gan gwmni'r Genhinen yn 1949, a Chynan ei hun yn gyfarwyddwr. Ond ei gyfraniad mwyaf i'r ddrama yng Nghymru oedd yr hyn a wnaeth trwy ddarlithio ar y pwnc i'w ddosbarthiadau allanol, ac mewn gwyliau drama, trwy gyfarwyddo cwmnïau ac actio 'i hun rai gweithiau, a thrwy feirniadu yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn y cystadlaethau cyfansoddi a hefyd yn y cystadlaethau perfformio. Bu am ychydig amser yn athro i actorion ifainc mewn cwrs a drefnwyd gan Gwmni Theatr Cymru. Ysgrifennodd a chynhyrchodd rai pasiantau ar raddfa fawr, gan gychwyn mor gynnar ag 1927 gyda phasiant hanesyddol yng nghastell Conwy, a'i ddilyn gan ' Basiant y Newyddion Da ' yng nghastell Caernarfon yn 1929 a ' Rhyfel a Heddwch ' yn yr un lle yn 1930. Yn 1931 penodwyd ef yn ddarllenydd dramâu Cymraeg ar ran yr Arglwydd Siambrlen i sicrhau eu bod yn unol â gofynion y gyfraith, a daliodd i wneud y gwaith nes diddymu sensoriaeth yn 1968.

Dyfarnwyd iddo radd D.Litt. er anrhydedd gan Brifysgol Cymru yn 1961, a chafodd ryddfreiniad Pwllheli, tref ei gartref, yn 1963. Penodwyd ef yn C.B.E. yn 1949, a dyrchafwyd ef yn farchog yn 1969. Priododd Ellen J. Jones o Bwllheli yn 1921, a bu mab a merch o'r briodas. Bu ei wraig farw yn 1962, ac yn 1963 priododd ef Menna Meirion Jones o'r Valley, Môn. Bu Cynan farw 26 Ionawr 1970.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Canlyniadau

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.