Fe wnaethoch chi chwilio am gwenallt

Canlyniadau

JONES, DAVID JAMES ('Gwenallt '; 1899 - 1968), bardd, beirniad ac ysgolhaig

Enw: David James Jones
Ffugenw: Gwenallt
Dyddiad geni: 1899
Dyddiad marw: 1968
Priod: Nel Owen Jones (née Edwards)
Rhiant: Mary Jones (née Jones)
Rhiant: Thomas Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd, beirniad ac ysgolhaig
Maes gweithgaredd: Eisteddfod; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Barddoniaeth; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Brynley Francis Roberts

Ganwyd 18 Mai 1899, ym Mhontardawe, Morgannwg, yr hynaf o dri phlentyn Thomas ('Ehedydd') Jones a'i wraig Mary. Hanai ei rieni o Sir Gaerfyrddin ac yr oedd ei ymwybod â'i wreiddiau yn elfen bwysig yn ei bersonoliaeth, fel y gwelir o'i ysgrif ar ' Y Fro: Rhydycymerau ' yng nghyfrol deyrnged D. J. Williams (gol. J. Gwyn Griffiths , 1965). Symudodd y teulu i'r Allt-wen ac addysgwyd Gwenallt mewn ysgolion lleol ac yna yn ysgol sir Ystalyfera (lle y bu Kate Roberts yn athrawes arno am ychydig). Bu'n ddisgybl-athro yn 1916-17 gan rannu'i amser rhwng ysgol elfennol Pontardawe a chweched dosbarth yr ysgol sir, ond pan wysiwyd ef i'r fyddin cyn sefyll ei arholiad Tystysgrif Uwch, safodd yn wrthwynebydd cydwybodol ar dir gwleidyddol a threuliodd ddwy flynedd, o Fai 1917 hyd Fai 1919, yng ngharchardai Wormwood Scrubs a Dartmoor. Aeth i Goleg Prifysgol Cymru Aberystwyth yn 1919, a hynny ar adeg ddisglair yn hanes cymdeithasol y sefydliad hwnnw. Yno y cyfarfu ag Idwal Jones y lluniodd gofiant iddo yn 1958. Wedi graddio yn y Gymraeg a'r Saesneg penodwyd ef yn athro Cymraeg yn ysgol sir y Barri ac yna, yn 1927, yn ddarlithydd yn Adran Gymraeg Coleg Prifysgol Cymru. Dyrchafwyd ef yn uwch-ddarlithydd ac yn Ddarllenydd (y cyntaf i'w benodi i'r raddfa newydd honno yng Ngholeg Aberystwyth). Ymddeolodd yn 1966. Enillodd radd M.A. yn 1929 a dyfarnwyd gradd D.Litt. honoris causa iddo gan Brifysgol Cymru yn 1967. Priododd Nel Edwards yn 1937 a bu iddynt un ferch. Bu farw yn Ysbyty Aberystwyth 24 Rhagfyr 1968.

Ei faes ymchwil cyntaf oedd Bucheddau'r Saint a rhethreg yn ysgolion y beirdd yn niwedd yr Oesoedd Canol (gweler Yr Areithiau Prôs, 1934), ac er iddo gyhoeddi astudiaethau megis Y Ficer Prichard a 'Canwyll y Cymry ' (1946), Blodeugerdd o'r ddeunawfed ganrif (1936, 1947), fel hanesydd llên y 19fed ganrif y mae'n fwyaf adnabyddus fel ysgolhaig. Yn ogystal â lliaws o erthyglau ar feirdd unigol, cyhoeddodd Detholiad o ryddiaith Gymraeg R. J. Derfel (1945), Bywyd a gwaith Islwyn (1948), Y Storm: dwy gerdd gan Islwyn (1954). Fel bardd a llenor, er hynny, y gwnaeth ei gyfraniad mwyaf. Yr oedd yn un o aelodau cyntaf Yr Academi Gymraeg ac ef oedd golygydd cyntaf ei chylchgrawn Taliesin hyd 1964 (cyfrol 9). Ei dad oedd ei athro cyntaf a bwriodd ei brentisiaeth mewn eisteddfodau lleol ac yn y coleg. Enillodd ei awdl ' Y Mynach ' gadair Eisteddfod Genedlaethol Abertawe (1926), ac er cydnabod ei awdl ' Y Sant ' yn orau yn Eisteddfod Genedlaethol Treorci (1928) ni ddyfarnwyd y gadair iddo. Cyhoeddwyd y ddwy awdl mewn llyfryn yn 1928. Enillodd gadair Eisteddfod Genedlaethol Bangor yn 1931 ag awdl ' Breuddwyd y Bardd '. Clywid llais mwy personol yn mynegi ei argyhoeddiadau cryfion, ei ymagwedd at fywyd a dyfnder ei bersonoliaeth yn y cerddi, y sonedau a'r cerddi hirion sydd yn ei gyfrolau, Ysgubau'r Awen (1939), Cnoi Cil (1942), Eples (1951), Gwreiddiau (1959), Y Coed (1969). Ynddynt gwelir ei ymlyniad at Gymru a'i diwylliant, a'i fyfyrdod ynghylch natur y drwg sydd yn y byd ac sy'n bygwth y gwareiddiad y mae'r bardd a'i genedl yn rhan ohono. Fel y datblygodd ei ganu, a'i ymateb i'r byd diwydiannol, materol ac i argyfwng Cymru 'n dwysáu, gwelir arddull ei ganu'n tyfu'n fwyfwy gerwin a digymrodedd. Nid mor llwyddiannus yw ei ddwy nofel, Plasau'r Brenin (1934) a Ffwrneisiau (1982) sy'n pwyso'n drwm ar ei brofiadau ef ei hun yn y carchar ac yn fachgen ar ei brifiant yng Nghwm Tawe.

Ymhob dim a wnâi, credai Gwenallt fod rhaid iddo fod yn ymrwymedig ac o ddifrif. Yr oedd yn un o aelodau cynnar Plaid Cymru, yr oedd yn ymwybodol wleidyddol ac yn ymddiddori'n ddeallus ym mhynciau'r dydd (ffrwyth myfyrio ar brofiadau arteithiol ei ieuenctid mewn cwm diwydiannol), a chafodd bererindod ysbrydol anodd ond gorfoleddus, fel y datguddiodd ef ei hun yn ei bennod yn Credaf (gol. J. E. Meredith, 1943).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Canlyniadau

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.