JONES, MEIRION (1907 - 1970), addysgydd

Enw: Meirion Jones
Dyddiad geni: 1907
Dyddiad marw: 1970
Priod: Jane Jones (née Griffith)
Rhiant: Annie Jones
Rhiant: Robert Owen Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: addysgydd
Maes gweithgaredd: Addysg
Awdur: Ifor Owen

Ganwyd yn Llithfaen, Caernarfon, 30 Gorffennaf 1907, yn fab i Robert Owen Jones ac Annie Jones. Mynychodd ysgol gynradd Llithfaen, ysgol ramadeg Pwllheli a'r Coleg Normal, Bangor. Bu'n athro yn ysgol gynradd Corris, (1929-30), ysgol ganol Blaenau Ffestiniog (1930-39), prifathro ysgol gynradd Llandrillo (1939-45), prifathro ysgol gynradd Dyffryn Ardudwy (1945-50), a phrifathro ysgol gynradd y Bala (1950-70). Yn 1938 priododd Jane, merch Owen a Catrin Griffith, Derlwyn, Pwllheli, a bu iddynt ddwy ferch. Yn 1965 derbyniodd yr M.B.E. am ei wasanaeth i addysg yng Nghymru. Yr oedd yn un o'r saith aelod cyntaf o bwyllgor Cymreig y Cyngor Ysgolion. Urddwyd ef yn dderwydd yn Eisteddfod Genedlaethol y Barri 1968 am ei gyfraniad i ddiwylliant Cymru. Bu'n aelod o gyngor Urdd Gobaith Cymru, ysgrifennydd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Blaenau Ffestiniog, 1936 a'r Bala 1954, ac ysgrifennydd pwyllgor sir yr Urdd ym Meirion am flynyddoedd lawer. Ef oedd ysgrifennydd mygedol Eisteddfod Genedlaethol y Bala 1967. Bu'n ysgrifennydd pwyllgor Hwyl (y comic Cymraeg) o 1950 hyd 1970. Cyhoeddodd ddau lyfr, Elizabeth Davies yng nghyfres Gŵyl Ddewi Gwasg Prifysgol Cymru, 1960, (ffrwyth cystadleuaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon 1959), ac Am Hwyl, llyfr i blant, yn 1967. Fel ysgrifennydd Cymdeithas Hanes Penllyn, bu'n brif symbylydd gosod meini coffa i nifer o enwogion y cylch, fel Michael D. Jones a John Puleston Jones. Bu'n flaenor gyda'r MC am 27 mlynedd ac yn ysgrifennydd eglwys Tegid, y Bala. Fel y dengys y rhestr faith o ysgrifenyddiaethau a ddaliai, yr oedd yn drefnydd manwl ac effeithiol dros ben. Bu farw yn ei gartref, Llwynhudol, y Bala, 11 Mawrth 1970.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.