JONES, EDWARD OWEN ('E.O.J. '; 1871 - 1953), newyddiadurwr ac englynwr

Enw: Edward Owen Jones
Ffugenw: E.o.j.
Dyddiad geni: 1871
Dyddiad marw: 1953
Rhiant: J. Lewis Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: newyddiadurwr ac englynwr
Maes gweithgaredd: Eisteddfod; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Barddoniaeth; Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: Bedwyr Lewis Jones

Ganwyd ym mis Mai 1871 yn Welford, swydd Northampton, lle'r oedd ei dad, ' Berwron ', yn gofalu am fferm, ond yn 1875 symudodd y teulu i Losg-yr-odyn, Y Gaerwen, Môn. Yn 1887 aeth yn brentis argraffydd i swyddfa'r North Wales Chronicle ym Mangor; yna yn 1903 dilynodd Hugh Edwards yn olygydd Y Clorianydd, papur wythnosol Môn, yn Llangefni, a daliodd yn y swydd honno am 48 mlynedd. Yr oedd yn englynwr medrus. Cynigiai bob blwyddyn ar yr englyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol; enillodd y gystadleuaeth yn Eisteddfod Llandybïe 1944 am englyn i'r neidr: 'un o'r pethau salaf ddaru mi 'rioed'. Bu farw 18 Medi 1953.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.