JONES, ROBERT (1891 - 1962), aerodynamegydd

Enw: Robert Jones
Dyddiad geni: 1891
Dyddiad marw: 1962
Priod: Madeline Jones (née Broad)
Rhiant: Sarah Mary Jones
Rhiant: John Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: aerodynamegydd
Maes gweithgaredd: Gwyddoniaeth a Mathemateg; Y Gofod a Hedfan
Awdur: Dennis John Wright

Ganwyd 7 Tachwedd 1891 yn y Tŷ Newydd, Cricieth, Caernarfon, yn bedwerydd plentyn John Jones a'i wraig Sarah Mary; addysgwyd ef yn yr ysgol fwrdd leol ac wedyn yn ysgol sir Porthmadog. Ym mis Hydref 1908, aeth i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru gydag ysgoloriaeth fechan. Mathemateg oedd ei brif gwrs o dan yr Athro G. H. Bryan, F.R.S., un o sefydlwyr gwyddor Aerodynameg. Bu hefyd yn astudio Ieitheg Gymraeg o dan Syr John Morris-Jones. Yr oedd yn fyfyriwr o allu anghyffredin, ac enillodd amryw wobrwyon, yn cynnwys gwobr R. A. Jones mewn Mathemateg (1910). Yn 1911, graddiodd gydag anrhydedd ail ddosbarth mewn Mathemateg Bur, gan gymryd dosbarth cyntaf mewn Mathemateg Gymhwysol yn 1912. Galluogwyd ef ar gyfrif Ysgoloriaeth Isaac Roberts i wneud ymchwil am radd M.A. a enillodd yn 1913, y radd uwch gyntaf a roddwyd am draethawd mewn Aerodynameg gan Brifysgol Cymru. Cyhoeddwyd sylwedd y traethawd mewn papur ar y cyd â Bryan yn Proc. Roy. Soc., 1915. O 1913 hyd 1916 bu'n dal Ysgoloriaeth Ymchwil Arddangosfa 1851 mewn gwyddoniaeth, i ddechrau ym Mhrifysgol Göttingen (1913-14) ac yna yn y Labordy Ffisegol Cenedlaethol, Caergrawnt. Ymunodd â staff y sefydliad hwnnw yn yr Adran Aerodynameg ac yno y bu nes ymddeol yn 1953. Priododd, 17 Rhagfyr 1918, â Madeline Broad, a bu iddynt un ferch, a anwyd 9 Mawrth 1920. Gwnaeth ei gartref yn Ashford. Drwy gydol ei fywyd bu'n aelod gweithgar yn yr Eglwys Gynulleidfaol gan gadw cysylltiad agos â Chymru a'r iaith. Bu farw 17 Mawrth 1962 yn Stanwell.

Ar ddamcaniaeth fathemategol sefydlogrwydd awyrennau y bu gwaith cyntaf Robert Jones yn y Labordy Ffisegol Cenedlaethol. Yn ddiweddarach gwnaeth lawer o waith damcaniaethol a gwaith twnel gwynt ar awyrlongau, a daeth i fod yn un o'r arbenigwyr blaenaf yn y byd ar sefydlogrwydd y rhywogaeth hon. Yn 1923, dyfarnwyd iddo Wobr Goffa R.38 y Royal Aeronautical Society am glasur o bapur ar sefydlogrwydd awyrlongau, a'r flwyddyn wedyn rhoes Prifysgol Cymru radd D.Sc. iddo, y tro cyntaf i'r radd gael ei rhoi am ymchwil mewn Aerodynameg. Wedi colli'r awyrlong R.101 cymerodd Dr Jones y rhan flaenaf yng ngwaith twnel gwynt dros y Comisiwn Ymchwil, a diolchodd y cadeirydd, Syr John Simon, yn bersonol iddo am ei waith. Yn gyfochrog â'r gwaith ar awyrlongau bu'n ymchwilio ar ran y Morlys i sefydlogrwydd y torpido. Cymerodd hefyd at beth o'r ymchwil cynharaf ar sefydlogrwydd parasiwtiau. Yn 1931, comisiynodd y Labordy Ffisegol dwnel awyr gywasgedig a alluogai gynnal arbrofion twnel gwynt dan bwysedd uchel (25 atmosffer). Ymgymerodd Dr Jones ag arolygiaeth y twnel a bu'n gysylltiedig ag ef hyd ei ymddeoliad. O dan ei arweiniad cyflawnwyd gweithgaredd sylfaenol bwysig, gydag adnoddau arbennig y twnel yn galluogi cael cymhariaeth uniongyrchol rhwng canlyniadau ar fodelau bychain a'r raddfa lawn. Yn ychwanegol at bapurau mewn cyfnodolion gwyddonol, ef oedd awdur tua 60 o'r Adroddiadau a Memoranda sylweddol a gyhoeddwyd gan yr Aeronautical Research Council.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.