LEWIS, DAVID EMRYS (1887-1954), bardd a newyddiadurwr;
g. ym Machynlleth, Tfn., a'i addysgu yn ysgolion y dref. Dechreuodd ar ei waith newyddiadurol gyda'r Montgomeryshire County Times. Yn 1916 symudodd i Bort Talbot fel cynrychiolydd i'r Cambrian Daily Leader a daeth wedyn yn aelod o staff y Western Mail. Bu hefyd yn ohebydd i bapurau eraill yn ne Cymru. Enillodd y goron yn Eist. Gen. Castellnedd 1918 am ei bryddest ‘Mynachlog Nedd’. Yr oedd yn br. â merch o Fachynlleth a chawsant ddau fab. Dioddefodd gystudd blin yn ei flynyddoedd olaf a bu f. yn y Gendros, Abertawe, 12 Mawrth 1954 yn 67 oed.
Llyfryddiaeth:
- West. Mail
- ac atgofion cyfeillion.
Awdur:
Gwilym Richard Tilsley, (1911-97), Prestatyn