Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



LEWIS, EMLYN EVANS (1905-1969), llawfeddyg edfrydol; g. yn Pennsylvania 10 Ebr. 1905. Ac yntau eto'n ifanc daeth ei fam ag ef i Gymru ac addysgwyd ef yn Ysgol Trefynwy, ac wedyn dilynodd gwrs o astudiaeth feddygol yn Ysbyty'r Santes Fair yn Llundain. Yno fe'i profodd ei hun yn fyfyriwr disgleiriaf ei flwyddyn, a graddiodd M.R.C.S., L.R.C.P. yn 1929, ac F.R.C.S. yn 1933. Ar ôl profiad helaeth fel llawfeddyg cyffredinol penderfynodd arbenigo yn yr adran edfrydol o lawfeddygaeth (plastic surgery). Rhoddodd wasanaeth gwerthfawr iawn yn ystod Rhyfel Byd I yn y ganolfan yng Nghaerloyw, i adfer awyrenwyr yn dioddef dan artaith llosgiadau dirfawr. Symudwyd yr uned arbennig oddi yno i Gasgwent o dan nawdd Bwrdd Ysbytai Cymru yn 1948, ac yno yn Ysbyty Sant Lawrence — a chyda chysylltiadau ymgynghorol â'r Ysbyty Brenhinol yng Nghaerdydd — y treuliodd y gweddill o'i yrfa ddisglair fel pennaeth y sefydliad.

Daeth enw da'r ysbyty yng Nghas-gwent yn adnabyddus ledled de a gorllewin Cymru, a bu ei ddawn a'i brofiad o fendith anhraethol i'r llu o ddynion a losgwyd tra'n llafurio yn y diwydiant dur a'r gwaith glo. Yr oedd Lewis yn arloeswr talentog yn ei arbenigaeth ddewisol ac yn weithiwr diarbed, ac fe'i perchid yn fawr trwy'r Deyrnas Unedig. Yn ychwanegol yr oedd yn weinyddwr medrus a phendant, a hefyd yn ddarlithydd dawnus.

Gŵr o gorff byr a chadarn ydoedd, a pheldroediwr tanbaid yn ei ddydd — dyna oedd yr eglurhad am ffurf ei drwyn. Dywedir mai anffurffiad hwnnw fu'r symbyliad a enynnodd ei ddiddordeb yn y lle cyntaf mewn llawfeddygaeth edfrydol. Yr oedd ei garedigrwydd yn ddiarhebol a'i gof yn ddi-feth. Yn ei oriau hamdden un o'i brif ddiddordebau oedd casglu hen glociau, a'r llall oedd ei weithgareddau fel aelod blaenllaw iawn ac uchel swyddog gyda'r Seiri Rhyddion. Pr. 28 Hyd. 1939 â Mary Cooper. Bu f. yn Ysbyty Brenhinol Caerdydd 14 Mai 1969, gan adael gwraig ac un ferch.

Llyfryddiaeth:

  • Brit. Med. Jnl., 1969, 2, 518, 829;
  • The Lancet, 1969, 1, 1107;
  • Lives Fellows Roy. Coll. Surg., 1965-73;
  • gwybodaeth bersonol.

Awdur:

Emyr Wyn Jones, M.D., F.R.C.P., (1907-99), Pwllheli / Lerpwl