LEWIS (TEULU), perchnogion Gwasg Gomer, Llandysul, Ceredigion, argraffwyr a chyhoeddwyr.

DAVID LEWIS (1890 - 1943),

oedd mab hynaf John David a Hannah Lewis; ganwyd 18 Ebrill 1890 ym Market Stores, Llandysul, Ceredigion. Addysgwyd ef yn ysgol cyngor ac ysgol sir Llandysul. Dysgodd grefft argraffu gan William John Jones, prif argraffydd Gwasg Gomer a sefydlwyd gan y tad. Pan fu'r tad farw yn 1914 syrthiodd baich trwm yr argraffwasg a'r siop lyfrau ar ysgwyddau David, gan fod ei frodyr Edward a Rhys yn y lluoedd arfog. Ef oedd cyfarwyddwr gwasg Gomer hyd ei farw. Dilynodd ei dad fel trysorydd eglwys Bedyddwyr Pen-y-bont; ysgrifennydd cymanfa ganu Bedyddwyr cylch Llandysul; trysorydd cyntaf a llywydd cymdeithas Cymrodorion Llandysul; cynrychiolodd dde plwy Llandysul ar gyngor sir Aberteifi am flynyddoedd. Fe'i gwnaed yn ynad heddwch, yn aelod o fwrdd gwarcheidwaid glannau Teifi, aelod o gorff llywodraethwyr ysgol sir Llandysul, Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac o gyngor cenedlaethol Undeb Cymru Fydd. Yr oedd yn aelod o gymdeithas hanes y Bedyddwyr, ac fel ei dad, yn fawr ei ddiddordeb mewn hanes lleol. Priododd, 9 Ionawr 1939, Mary Anne Hughes, Plasnewydd, Llanllwni, (isod), a gwnaethant eu cartref yn Nolanog, Llandysul. Bu farw 26 Awst 1943.

EDWARD LEWIS (1891 - 1965),

ail fab John David a Hannah Lewis; ganwyd 27 Awst 1891 ym Market Stores. Cyn Rhyfel Byd I gweithiai yn siop lyfrau ei dad. Bu wedyn yn oruchwyliwr cyfnewidfa lafur Llandysul. Ar farwolaeth ei frawd David cymerodd ei le fel cyfarwyddwr Gwasg Gomer, cynghorwr sir dros yr un adran o'r plwy, a thrysorydd eglwys Pen-y-bont. Bu'n drysorydd cymanfa Bedyddwyr sir Gaerfyrddin a sir Aberteifi o 1955 hyd ei farw. Gwnaethpwyd yntau'n ynad heddwch yn 1946 a chafodd yr O.B.E. yn 1956. Yn 1955 daeth yn aelod er anrhydedd o Orsedd y Beirdd; llywydd cymdeithas Cymrodorion Llandysul yn 1938, blwyddyn dadorchuddio cofeb i Christmas Evans ar fur ysgol Tre-groes; aelod o gorff llywodraethwyr ysgolion uwchradd Llandysul a Chastell Newydd Emlyn; aelod o'r cydbwyllgor addysg, a bwrdd llywodraethwyr yr Amgueddfa Genedlaethol. Mawr oedd ei ddiddordeb mewn hanes lleol, a mudiadau lleol, crefyddol a diwylliannol. Priododd Lena Harries o'r Ceinewydd, 27 Awst 1927. Bu farw ar Sul y Pasg, 18 Ebrill 1965.

Rhyngddynt gwnaeth y ddau trwy Wasg Gomer wasanaeth gwiw i lenyddiaeth Gymraeg, ac yn eu cyfnod daeth y Wasg hon yn un o brif weisg Cymru. Cymerasant drosodd Wasg Caxton yn Llanbedr Pont Steffan, a Gwasg Aberystwyth.

MARY ANNE LEWIS, gynt HUGHES (1891 - 1960),

unig ferch Timothy a Hannah Hughes, Plasnewydd, Llanllwni, Ceredigion, ond yr oedd ganddi bedwar brawd, John, William, David a Tim. Bu John yn ddarlithydd mewn addysg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth cyn cael Cadair yn yr un pwnc ym Mhrifysgol Witwatersrand, a Phrifysgol McGill, Montreal wedi hynny. Bu ef farw 4 Gorffennaf 1977. Addysgwyd hi yn ysgol gynradd Llanllwni, ysgol sir Llandysul, a Choleg Prifysgol Cymru, lle y graddiodd gyda dosbarth cyntaf mewn Saesneg yn 1911. Yn y coleg etholwyd hi yn Llywydd adran y merched ac felly yn is-lywydd undeb y myfyrwyr. Bu'n athrawes Saesneg yn ysgol sir Llandysul, o Fedi 1912 i Orff. 1918, ac ar ôl hynny'n ddarlithydd Saesneg yn y coleg hyfforddi athrawon yn Abertawe, o 1918 i 1938. Bu'n athrawes ddylanwadol mewn ysgol a choleg. Cymerodd ddiddordeb arbennig yn y ddrama, a bu'n gynhyrchydd dramâu yn y coleg hyfforddi a gyda chymdeithas ddrama Abertawe, cwmni drama sir Aberteifi, a chwmni drama Llandysul. Bu'n feirniad yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar chwarae ac ar gyfansoddi dramâu. Cyfieithodd The Poacher (J. O. Francis) a Jane Wogan (Florence Howell), i'r Gymraeg. Priododd David Lewis (uchod) ar 9 Ionawr 1939, a dod i fyw i Ddolanog, Llandysul. Bu farw 16 Mawrth 1960, a'i chladdu ym mynwent capel Pen-y-bont, Llandysul.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.