Anodd yw hi heddiw ddirnad yr anawsterau a oedd yn ffordd astudio'r iaith Gymraeg a'i llên pan sefydlwyd cyrsiau gradd yn y Gymraeg. Ymhlith y dyrnaid bach o ysgolheigion a weddnewidiodd y sefyllfa trwy olygu llawer o'r testunau hanfodol, gan eu dehongli a manylu ar ystyron geiriau, ac ar gystrawen, fe saif H. L. yn y rheng flaenaf — gwaith a wnaed yn gyfochrog â chynnal adran o'r brifysgol gyda chymorth un neu ddau yn unig o ddarlithwyr. Dechreuodd mor gynnar ag 1921 ar gyhoeddi cyfieithiadau Cymraeg Canol o destunau Lladin: Darnau o'r Efengylau (Cymmrodor, 31), Chwedleu seith doethon Rufein (1925), Delw y byd (1928, cywaith gyda Pol Diverres), ac yn bennaf Brut Dingestow (1942), gyda rhagymadrodd gwerthfawr iawn i astudwyr cyfieithu i'r Gymraeg o'r Lladin. Yn gynnar iawn yn ei yrfa hefyd bu'n golygu a dehongli gwaith beirdd yr oesoedd canol. Ei ddau gyfraniad mwyaf arbennig yn y maes hwn yw ei waith ar Iolo Goch ar gyfer Cywyddau Iolo Goch ac eraill (1925 ac 1937), a Hen gerddi crefyddol (1931), a oedd yn llafur arloesol ar adran bwysig o waith y Gogynfeirdd. Golygodd hefyd rai testunau o gyfnod y Dadeni megis Hen gyflwynadau (1948), a rhai diweddar fel Llanwynno, Glanffrwd (1949), Cydymaith yr hwsmon, Hugh Jones, Maesglasau (1949) a Morgannwg Matthews Ewenni (1953).
Ond i ddychwelyd at ei brif feysydd, paratôdd gydag Elizabeth J. Louis Jones (gw. uchod) y Mynegai i farddoniaeth y llawysgrifau (1928), ar ôl golygu'r flwyddyn flaenorol gynnwys llawysgrif Peniarth 53. Y mae Bwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd (cylchgrawn a olygodd ei adran iaith a llên o 1950 hyd 1964), ac i raddau llai gylchgronau ysgolheigaidd eraill yn frith tros gyfnod hir o'i erthyglau a'i nodiadau sylfaenol eu pwys ar iaith a llên o gyfnod y Cynfeirdd a'r glosau cynnar ymlaen, ac yn arbennig ar forffoleg a chystrawen, pynciau yr ymdrinir â rhai ohonynt hefyd yn ei lyfr Datblygiad yr iaith Gymraeg (1931), ei ddarlith Syr John Rhŷs The Sentence in Welsh (1942), a'i astudiaeth Yr elfen Ladin yn yr iaith Gymraeg 1961).
Astudiodd lawer ar y Gymraeg yn ei chyd-gysylltiadau, fel y gwelir yn Llawlyfr Cernyweg Canol (1928, 1946), Llawlyfr Llydaweg Canol (1922, 1935 ac 1966 — yr olaf gyda chydweithrediad J.R.F. Piette), ac yn anad unlle yn ei gywaith â Holgar Pedersen yn cyfieithu ac yn ychwanegu at gampwaith hwnnw, sef y Vergleichende Grammatik der Keltischen Sprachen, i gynhyrchu A Concise Comparative Celtic Grammar (1937, ac yn helaethach yn 1961).
Yn gynnar yn ei yrfa bu H. L. yn un o olygyddion ‘Cyfres y Werin a'r Brifysgol’, ac yr oedd ganddo law yng nghyfieithu Brenin yr ellyllon (Gogol) ar ei chyfer. Yr oedd yn aelod o bwyllgor golygyddol Geiriadur Prifysgol Cymru, a pharatôdd y Collins-Spurrell Welsh dictionary (1960). Ymhlith ei orchwylion eraill bu'n cymryd rhan yn niwygio Caniedydd yr Annibynwyr Cymraeg, a diwygio orgraff Beibl y plant (1929), Y Testament Newydd (1936), Y Beibl (1955), a'r Apocrypha (1959). Cyfieithodd amryw o adroddiadau'r Llywodraeth, a chomisiynau, etc., gan gyfrannu'n fawr at godi safon Cymraeg cyfieithiadau o'r fath. Bu'n aelod o amryw fyrddau cyhoeddus, pwyllgorau a chymdeithasau gwirfoddol: i enwi rhai ohonynt yn unig — Cyd-bwyllgor Addysg Cymru, cyngor Coleg Harlech (bu'n gadeirydd), clerc a Warden Urdd Graddedigion Prifysgol Cymru, is-lywydd Cyngor Llyfrgell Genedlaethol Cymru, aelod anrhydeddus o'r Royal Irish Academy, is-lywydd o Anrh. Gym. y Cymmrodorion. Gwnaethpwyd ef yn C.B.E. yn 1954, ac anrhydeddwyd ef â gradd LL.D. gan Brifysgol Cymru a D.Litt.Celt. gan Brifysgol Genedlaethol Iwerddon. Bu f. 14 Ion. 1968.
David Myrddin Lloyd, M.A., (1909-81), Aberystwyth / Yr Alban