Un o'r rhai a swynwyd gan y ffilm hon oedd Sam Jones, a oedd ar y pryd yn gynhyrchydd rhaglenni Cymraeg gyda'r B.B.C., ac ar ôl deall mai Cymro oedd Idris Lewis llwyddodd i'w berswadio i ymuno â'r B.B.C. yng Nghaerdydd, lle y bu'n gyfarwyddwr cerdd rhanbarth Cymru (1936-52), y cyntaf i'w benodi i'r swydd honno. Bu f. yn ei gartref yn Llandaf, 15 Ebr. 1952, ac amlosgwyd ei weddillion yng Nglyntaf.
Y mae'n ffigur pwysig yn hanes cerddoriaeth y genedl, yn bennaf oherwydd ei waith arloesol yn darlledu cyngherddau cerddorfaol o Gaerdydd. Bu hefyd yn gyfrifol am drefnu cyfresi o raglenni lleisiol poblogaidd ar radio sain, yn eu plith ‘Melys Lais’ a ‘Cenwch im yr hen ganiadau’. Er nad oedd yn gyfansoddwr toreithiog ysgrifennodd a threfnodd amryw o weithiau derbyniol ar gyfer corau meibion, ac erys ambell unawd allan o'i osodiad o ‘Alun Mabon’ (Ceiriog), a ddarlledwyd am y tro cyntaf yn 1935, yn boblogaidd ar lwyfan eisteddfod a chyngerdd. Ef yw awdur y llyfr buddiol Cerddoriaeth yng Nghymru (1945) a gyfieithiwyd i'r Gymraeg gan Enid Parry. (Brawd iddo oedd D. H. Lewis, Llanelli, awdur Cofiant J.T. Rees, ynghyd â nifer o ysgrifau ar gerddorion y genedl a gyhoeddwyd yn Y Genhinen a chylchgronau eraill).
Huw Williams, (1922-2002), Bangor / Prestatyn