Enwyd y mab yn Gruffydd Thomas o barch i flaenor o'r enw hwnnw a oedd yn gyfaill mynwesol i'w dad yn Aberystwyth. Cafodd G. Tom Lewis ei addysg yn ysgol elfennol Llan-y-bri ac Ysgol yr Hen Goleg, Caerfyrddin, ac oddi yno yr aeth gydag ysgoloriaeth i Goleg Llanymddyfri yn 1889. Pasiodd arholiad matriculation Prifysgol Llundain yn 1893 ac enillodd ysgoloriaeth i Goleg Sidney Sussex yng Nghaergrawnt, lle y graddiodd yn yr ail ddosbarth (senior optime) yn 1896, ac yn M.A. yn 1900. Bu'n amlwg mewn chwaraeon yn y coleg gan rwyfo yn y cwch cyntaf. Ar derfyn ei gwrs penodwyd ef yn ail athro i ysgol uwchradd Doc Penfro, ond yn 1897 apwyntiwyd ef yn brifathro cyntaf ysgol sir Tregaron a agorwyd yn Neuadd y Dref. Ef a fu'n gyfrifol am arolygu codi adeiladau parhaol yr ysgol ar batrwm ysgol sir Arberth ac am ei gosod yn gadarn ar ei thraed a'i llywio gyda medr a brwdfrydedd hyd at ei ymddeoliad yn 1937. Yr oedd yn athro llwyddiannus ac ef oedd yn bennaf gyfrifol am ddysgu mathemateg drwy'r ysgol a hynny o Ysgrythur a geid ar yr amserlen. Defnyddiai hwnnw fel cyfrwng i wella Saesneg y dosbarth isaf. Cadwai ddisgyblaeth gadarn ond heb fod yn haearnaidd. Yr oedd ei hiwmor iach a'i synnwyr digrifwch yn lliniaru a goleuo'i safbwynt biwritanaidd. Fel y rhelyw o athrawon a rhieni ei gyfnod yr oedd dod ymlaen yn y byd yn uchelgais i'w meithrin yn y disgyblion. Iddo ef, yr oedd dalgylch gwbl Gymreig yr ysgol yn ei gwneud yn ddianghenraid i ganolbwyntio ar addysg Gymraeg. Teimlai mai prif angen y plant oedd hyfforddiant trwyadl mewn Saesneg gan mai honno oedd yr iaith wannaf iddynt. Yr oedd yn gefnogwr brwd i eisteddfod flynyddol yr ysgol a chyfrifai ei bod yn elfen werthfawr yn ei bywyd a'i chymeriad. Ceid golwg gwbl wahanol arno yng nghyfarfodydd yr wythnos yn festri capel MC Bwlch-gwynt, ac am ran helaethaf ei yrfa yn Nhregaron byddai llawer o blant yr ardaloedd cylchynol yn aros yn y dref o fore Llun tan nos Wener, ac ym Mwlch-gwynt caent ef yn Gymro glân ac yn flaenor blaenllaw er 1912. Sicrhâi'r plant a fynychai'r cyfarfodydd mai hwy fyddai debycaf o ragori yn yr arholiadau ysgol. Ymhyfrydai yn y nifer o weinidogion a godwyd yn yr ysgol yn ei gyfnod.
Gwasanaethodd ar lu o bwyllgorau allweddol Cyfundeb y MC a chydnabuwyd hynny yn ei ddyrchafiad i lywyddiaeth Sasiwn y De am y flwyddyn 1936-37, a oedd hefyd yn flwyddyn coffáu canmlwyddiant marw Ebenezer Richard (Bywg., 797) a wnaeth Dregaron yn enw teuluaidd yng Nghymru.
Pr. Annie, unig blentyn John Thomas (1839-1921; Bywg., 895) a'i wraig Ann (g. Williams) o Lanwrtyd, yng nghapel Heol Dŵr, Caerfryddin, ar 27 Rhag. 1901. Bu iddynt 5 o ferched. Bu hi f. 10 Meh. 1939, ac yntau 20 Gorff.1964. Claddwyd y ddau ym mynwent capel Bwlch-gwynt.
Evan David Jones, F.S.A., (1903-87), Aberystwyth