Yr oedd yn gynadleddwr profiadol ac arweinydd yng ngwasanaeth ei enwad. Bu'n ysgrifennydd Cymanfa Bedyddwyr Arfon, 1906-10, ac ysgrifennydd Cymanfa Dinbych, Fflint, a Meirion, 1919-39, â chyfrifoldeb arbennig o 1934 ymlaen am ofynion y Gronfa Gynhaliol. Bu'n llywydd y Gymanfa ddwywaith (1930-31, 1954-55), ac wedi annerch yr Undeb (1910, 1920) dyrchafwyd ef yn llywydd 1938-39. Cyhoeddwyd anerchiad 1920, Crist a'r werin ac araith 1939, Yr Eglwys a'i chyfle heddiw. Bu'n gadeirydd y Drysorfa Goffadwriaethol, Pwyllgor Y Llawlyfr moliant newydd (1955), Pwyllgor y Gronfa Gynhaliol (o ganol y 1950au hyd ei farw), a threfnydd dros Gymru i'r Drysorfa Ad-drefnu (1944).
Yr oedd yn ysgrifwr toreithiog a chyhoeddodd fyrgofiant yn J. T. Rees (gol.), Detholiad o donau, anthemau a rhanganau Dafydd Lewis, Llanrhystyd (1930), ac Yr eglwysi a'r undeb. Y weinidogaeth a'i pherigl heddiw (1939). Yr oedd ar y blaen yn atgyfodi Seren Gomer yn 1909, yn olygydd y cylchgrawn, 1910-16, gyda phwyslais neilltuol ar ei ‘Nodiadau ar lyfrau’, ac y mae ei erthyglau ymlaen i'r 1930au yn cynnwys bywgraffiadau Bedyddwyr cyfoes o Gymry, adroddiadau ar gynadleddau blynyddol, a thraethiadau sylweddol ar bynciau amrywiol. Cyfrannodd lawer i Yr Hauwr (wedyn Yr Heuwr) a'i olynydd Yr Arweinydd newydd, o 1904 hyd ganol y 1930au.
Yr oedd yn ŵr effro i anghenion cenedl yn ogystal ag enwad. Bu'n ysgrifennydd Cymanfa Ddirwest Llŷn ac Eifionydd. Yr oedd yn heddychwr i'r carn, yn aelod o'r cwmni a gychwynnodd Y Deyrnas, Hyd. 1916, ac yn ysgrifennydd a chofnodydd i'r Gynhadledd Heddwch a alwyd yn Llandrindod, 3-5 Medi 1917. Ef yn 1940-41 oedd cadeirydd y Pwyllgor er Diogelu Diwylliant Cymru, a phan unwyd hwnnw ag Undeb Cenedlaethol y Cymdeithasau Cymraeg yn 1941 i greu Undeb Cymru Fydd, bu o'r cychwyn yn aelod o Gyngor ac amryw o bwyllgorau'r corff newydd ac wedyn yn gadeirydd ac yn llywydd. Dyfarnwyd iddo D.D. er anrh. gan Brifysgol Cymru yn 1961, ac ym marn llawer ef oedd Bedyddiwr pwysicaf yr 20 g. yng Nghymru.
Pr. (1), 13 Ebr. 1904, ag Elizabeth Ellen Roberts (1896-1941), Caergybi. Pr. (2), 20 Mai 1946, ag Eleanor Thomas (g. Dodd), Pen-y-cae, Wrecsam. Ganed o'r briodas gyntaf ddau fab. Bu f. 9 Mai 1966 yn ei gartref Tŷ Cerrig, Pen-y-cae, a chladdwyd ei lwch ym medd ei wraig gyntaf ym mynwent ei fam-eglwys, yn Salem, Llanrhystud.
Benjamin George Owens, M.A., Aberystwyth