LLEWELYN, WILLIAM CRAVEN (1892 - 1966), perchennog glofeydd, cyfarwyddwr cwmnïau, arbenigwr mewn amaethyddiaeth ac mewn coedwigaeth

Enw: William Craven Llewelyn
Dyddiad geni: 1892
Dyddiad marw: 1966
Priod: Doris Mary Llewelyn (née Bell)
Rhiant: T. David Llewelyn
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: perchennog glofeydd, cyfarwyddwr cwmnïau, arbenigwr mewn amaethyddiaeth ac mewn coedwigaeth
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Natur ac Amaethyddiaeth
Awdur: David Glanville Rosser

Ganwyd 4 Mehefin 1892 yn fab i T. David Llewelyn, Clydach, Cwm Tawe, Morgannwg. Priododd â Doris Mary Bell yn 1932 ond ni chawsant blant. Addysgwyd ef yng Ngholeg Arnold, Abertawe a Choleg Technegol Abertawe cyn graddio yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor. Yn gynnar cymerodd ddiddordeb arbennig mewn gyrfa yn y gwaith glo ac i'r perwyl hwnnw cafodd hyfforddiant preifat gan J. Henry Davies, ond astudiodd goedwigaeth a choed-ddefnydd hefyd a chael ei dderbyn i wasanaeth y llywodraeth. Yn 1918-19 yr oedd yn Swyddog Ystadegol Fforestydd yn Home-Grown Timber Department y Bwrdd Masnach. Yn y cyswllt hwn teithiodd yn helaeth ar draws y byd, yn archwilio'r rhanbarthau coediol yn America Ganol, Canolbarth Ewrop a Rwsia. Yn union wedi Rhyfel Byd I dychwelodd at ei ddiddordeb mewn glo ac ymgymerodd â gwaith glo a choed. Ymestynnodd ei weithgarwch mewn busnes i gynnwys gwaith brics ac amaethyddiaeth, tra ar yr ochr wleidyddol bu'n fwy gweithgar gyda materion lleol y Blaid Ryddfrydol. Bu'n ymgeisydd (Rh.) mewn dau etholiad seneddol; yng Nghaer yn 1923 a Crewe yn 1929. Ef oedd llywydd Siambr Fasnach Abertawe yn 1944-45 a phenodwyd ef yn Uchel Siryf Brycheiniog yr un flwyddyn. Ymhlith ei weithgarwch cyhoeddus yr oedd bod yn llywydd Clwb Cymdeithas Pêl-droed Abertawe ac aelod o Undeb Amaethwyr Cymru. Cyhoeddodd ddau waith pwysig mewn cysylltiad â choedwigaeth yng Nghymru : Afforestation of Wales (1915) a Forest soils of Wales (1917). Bu farw 4 Ionawr 1966.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.