LLOYD, DAVID JOHN (1886 - 1951), prifathro ysgol

Enw: David John Lloyd
Dyddiad geni: 1886
Dyddiad marw: 1951
Priod: Olwen Lloyd (née Beynon)
Rhiant: Jane Peregrine Lloyd
Rhiant: Daniel Lloyd
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: prifathro ysgol
Maes gweithgaredd: Addysg
Awdur: William Gareth Evans

Ganwyd 6 Mawrth 1886 yn fab i Daniel a Jane Peregrine Lloyd, Abertawe, Morgannwg. Addysgwyd ef yn Ysgol Ramadeg Abertawe, 1894-1904; Coleg y Brifysgol, Caerdydd, 1904-07, lle y graddiodd yn y clasuron; a Choleg Oriel, Rhydychen, 1907-11, lle'r oedd yn exhibitioner, gan ennill B.A. yn 1911 ac M.A. yn 1914. O 1911-19, bu'n athro yn y Liverpool Collegiate School heblaw am 1917-19, pan oedd yn gwasanaethu gyda'r R.N.A.S. a'r R.A.F. Bu'n brifathro 'r Ysgol Sir, Port Talbot, 1919-20, ac ysgol Uwchradd Casnewydd, 1921-35. Symudodd i Wrecsam yn 1935 i fod yn brifathro Ysgol Grove Park lle y bu hyd ei ymddeoliad yn 1946 pan symudodd i fyw i Borthaethwy, sir Fôn. Priododd yn 1914 ag Olwen Beynon a bu farw 2 Tachwedd 1951. Bu iddynt 4 mab a merch.

Yn ystod ei brifathrawiaeth ar Ysgol Grove Park, lle y dilynodd J.R. Edwards, a apwyntiwyd yn brifathro ar y Liverpool Institute High School, daeth yn amlwg iawn yn y byd addysg yng Nghymru, a'i gydnabodd yn brifathro profiadol ac effeithiol. Yr oedd yn aelod o'r Headmasters Conference hyd nes y pasiwyd Deddf Addysg 1944 a lleihau pwerau'r prifathro a bwrdd llywodraethu'r ysgol. Yr oedd hefyd yn aelod o gyngor y Welsh Secondary Schools Association a'r Headmasters' Association, a bu hyn o fantais fawr i'r ysgol. Etholwyd ef deirgwaith i gynrychioli prifathrawon ysgolion uwchradd Cymru ar Bwyllgor Burnham. Bu hefyd yn gysylltiedig â llawer o achosion da ym mywyd cyhoeddus tref Wrecsam.

Yr oedd Ysgol Grove Park yn llwyddiannus iawn yn y cyfnod hwn o dan arweiniad y prifathro dysgedig a diwylliedig a lwyddodd i ennill cefnogaeth y llywodraethwyr a chydweithrediad y staff yn ogystal ag edmygedd ei ddisgyblion. Aberthodd lawer er sicrhau bod yr ysgol yn goresgyn y problemau anodd a gododd yn ystod Rhyfel Byd II, yn arbennig newidiadau yn staff yr ysgol. Bu cynnydd amlwg yn nifer disgyblion y Chweched Dosbarth gan wneud Grove Park yn un o'r ysgolion gyda'r Chweched Dosbarth mwyaf yng Ngymru. Ymhyfrydai'r prifathro yn llwyddiant yr ysgol yn academaidd a hefyd ar y maes chwarae. Ailsefydlwyd pêl-droed yn yr ysgol yn 1941 ac enillodd tîm criced yr ysgol gryn enwogrwydd yn 1944 yng ngêm derfynol cystadleuaeth cwpan McAlpine. Ar achlysur ei ymddeoliad yn 1946, cofnodwyd teyrnged y llywodraethwyr yng nghofnodion yr ysgol.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.