LOUGHER, Syr LEWIS (1871 - 1955), diwydiannwr a gwleidydd

Enw: Lewis Lougher
Dyddiad geni: 1871
Dyddiad marw: 1955
Rhiant: Charlotte Lougher (née Lewis)
Rhiant: Thomas Lougher
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: diwydiannwr a gwleidydd
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: Prys Morgan

Ganwyd 1 Hydref 1871 yn ail fab i Thomas Lougher o Landaf, Morgannwg, a Charlotte merch David Lewis, ffermwr cyfrifol Radyr Farm, Radur, Caerdydd. Yr oedd gwreiddiau'r teulu'n ddwfn ym Mro Morgannwg; deuai ei dad o Wenfô a'i dad yntau o'r Garn-llwyd, Llancarfan. Addysgwyd ef yn y Cardiff Secondary School a Choleg Technegol Caerdydd, a'i brentisio gyda masnachwyr ŷd. Ond yn fuan aeth Lewis i mewn i fusnes llongau, a llwyddo mewn modd eithriadol pan oedd Caerdydd yn dod yn brif borthladd glo'r byd, nes iddo yn 1910 ddechrau cwmni llongau Lewis Lougher and Co. Ltd. a chanddo lynges o longau yn nociau Bute, a thyfu'n ffigur nodweddiadol o Gaerdydd ar anterth nerth masnachol y ddinas. Bu'n gadeirydd nifer fawr o gwmnïau llongau yng Nghaerdydd, Penarth a'r Barri, yn gadeirydd ffederasiwn perchnogion llongau Môr Hafren yn 1919, yn gadeirydd y Siambr Fasnach yng Nghaerdydd pan oedd y Siambr yn bwerus neilltuol, ac yn arbenigwr ar broblemau allforio a thrin glo, fel aelod o'r National Trimming Board.

Bu'n aelod o gyngor sir Morgannwg o 1922 i 1949, yn aelod ac yn gadeirydd Cyngor Gwledig Caerdydd. Bu'n A.S. (C) dros ddwyrain Caerdydd 1922-23, a thros Gaerdydd Ganol 1924-9. Y peth nodedig am ei yrfa seneddol oedd iddo lwyddo i gael deddf fel aelod preifat ar y llyfr statud, sef y Road Transport Lighting Act, a gyflwynwyd fel mesur ganddo yn Chwefror 1927, sy'n hawlio hyd heddiw fod pob cerbyd i gael golau gwyn ymlaen a golau coch yn ôl.

Bu'n ynad heddwch dros Forgannwg, yn Uchel Siryf yn 1931, ac fe'i hurddwyd yn farchog yn 1929. Yn ystod y 1930au bu'n gyfrifol am ddatblygu rhannau o Radur trwy ei gwmni tir ac adeiladau y Danybryn Estates. Bu'n aelod blaenllaw o'r Seiri Rhyddion, a chyfrannodd yn helaeth at bob math o sefydliadau ac achosion dyngarol yn ardal Caerdydd.

Hen lanc ydoedd. Bu'n byw am amser maith mewn plas o'r enw Dan-y-bryn, Radur (Cheshire Homes erbyn heddiw), ond tuag 1939, symudodd ef a'i chwaer ddibriod Charlotte Lougher i fyw gerllaw yn Northlands, Radur, lle y bu farw 28 Awst 1955.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.