MACDONALD, GORDON, y Barwn MACDONALD o WAENYSGOR cyntaf (1888 - 1966), gwleidydd

Enw: Gordon Macdonald
Dyddiad geni: 1888
Dyddiad marw: 1966
Priod: Mary Macdonald (née Lewis)
Plentyn: Elsie Williams (née Macdonald)
Plentyn: Gordon Ramsay Macdonald
Rhiant: Ellen Macdonald (née Hughes)
Rhiant: Thomas Macdonald
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gwleidydd
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: Deian R. Hopkin

Ganwyd 27 Mai 1888 yng Ngwaenysgor, Prestatyn, Fflint, yn fab i Thomas MacDonald ac Ellen (ganwyd Hughes) ond symudodd y teulu'n fuan ar ôl hynny i Asthon-in Makerfield, sir Gaerhirfryn, lle y magwyd ef ar aelwyd Gymraeg ei hiaith. Gadawodd ysgol elfennol S. Luc, Stubshaw Cross, yn 13 oed i weithio mewn pwll glo, a gweithiodd yno hyd ddechrau Rhyfel Byd I, gan dreulio cyfnod yn fyfyriwr yng Ngholeg Ruskin, Rhydychen. Etholwyd ef yn 1920 yn aelod o Fwrdd Gwarchodaeth Wigan y daeth yn gadeirydd iddo yn 1929, a bu'n llywydd Cymdeithas Gydweithredol Bryn Gates, 1922-24. Daeth yn Weithredydd y Glowyr yn sir Gaerhirfryn yn 1924 a pharhaodd yn y swydd honno hyd nes ei ethol yn A.S. (Ll) dros Ince, sir Gaerhirfryn yn 1929. Dangosodd ynni a chytbwysedd mewn cyfnod anodd i aelodau Llafur. Er iddo ymgyfeillachu â Ramsay MacDonald, ni ddilynodd ef yn 1931. Daeth yn un o chwipiaid y Blaid Lafur, a chymerodd ran amlwg mewn dadleuon ar y diwydiant glo ac ar gwestiynau cymdeithasol. Bu hefyd yn Gadeirydd Pwyllgorau Tŷ'r Cyffredin, 1934-41. Yn 1942 ymddiswyddodd o'r Tŷ pan apwyntiwyd ef yn rheolwr dros siroedd Caerhirfryn, Caer, a gogledd Cymru yn Adran Tanwydd a Phŵer y Llywodraeth, ac enillodd edmygedd mewn cylch eang am ei waith. Ar waethaf diffyg profiad enwebwyd ef yn llywodraethwr talaith Newfoundland, Canada, yn 1946, a'i ddyrchafu'n farchog. Yr oedd y dalaith yn dlawd ond balch, ac mewn cyflwr ariannol dyrys, ac enillodd Macdonald enw da am ei waith ymhlith pysgotwyr, glowyr a ffermwyr bach y dalaith a'i galwai yn 'llywodraethwr y tlawd'. Tywysodd y dalaith i safle annibynnol o fewn gwladwriaeth Canada ac ar ddiwrnod yr ymsefydlu yn 1949 dychwelodd i Brydain a dyrchafwyd ef yn Farwn etifeddol Gwaenysgor.

Yn ystod 1949-51 bu'n dal swydd Paymaster General. Eto, y Gymanwlad a materion rhyngwladol oedd ei brif ddiddordeb.Yn 1950 mynychodd gyfarfod y Cenhedloedd Unedig, a bu'n flaenllaw yn y paratoadau ar gyfer cynhadledd bwysig yn Awstralia i drefnu cymorthdaliadau i wledydd de-ddwyrain Asia. O 1952-59 bu'n aelod o'r Colonial Development Corporation, corff a wnaeth gyfraniad pwysig i ddatblygiad economaidd a chymdeithasol gwledydd yr hen ymerodraeth mewn cyfnod pan oeddynt yn creu seiliau i'w hannibyniaeth.

Wedi cwymp y llywodraeth Lafur yn 1951 dychwelodd Arglwydd MacDonald i'w famwlad lle y daeth yn flaenllaw mewn pob math o gymdeithasau a chyrff cyhoeddus, a daeth ei ymroddiad i fuddiannau Cymru yn amlwg. Cymerodd ddiddordeb mawr mewn cymdeithasau crefyddol a chenhadol, a'i ethol yn llywydd Undeb y 'Band of Hope', 1951, a llywydd Cymdeithas Genedlaethol y Deillion. Ond fel cadeirydd cyntaf Pwyllgor Darlledu Cymru trwy gydol y 1950au y daeth fwyaf adnabyddus yng Nghymru. Cyhoeddodd areithiau a sgyrsiau a draddodwyd ganddo yn Newfoundland yn Newfoundland at the cross roads (1949), a'i Atgofion seneddol (1953).

Priododd, 1913, â Mary Lewis o Flaenau Ffestiniog a bu iddynt bedwar o blant. Bu farw 20 Ionawr 1966 ac etifeddwyd y teitl gan ei fab hynaf, Gordon Ramsay MacDonald (ganwyd 1915).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.