Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



MARDY-JONES, THOMAS ISAAC (1879-1970), economegydd a gwleidydd; g. yn 1879 yn fab i Thomas Isaac a Gwen Jones, Brynaman, Caerf. Lladdwyd ei dad a'i ddau dad-cu mewn damwain mewn pwll glo. Derbyniodd ei addysg gynnar yn ysgol y bwrdd, Ferndale, a dechreuodd weithio yno mewn pwll glo yn 12 ml. oed. Bu'n rhaid iddo gynnal teulu o chwech ar ei gyflog. Manteisiodd ar y cyfle i astudio hanes gwleidyddol ac economaidd yng Ngholeg Ruskin, Rhydychen, am 2 fl., ac, ar ôl iddo ddychwelyd i dde Cymru, gweithredodd fel ‘cenhadwr’ ar ran y coleg a llwyddodd i berswadio Ffederasiwn Glowyr De Cymru i sefydlu deg ysgoloriaeth i alluogi glowyr i fynychu cyrsiau'r coleg. Bu hefyd yn ddarlithydd ar ran y Blaid Lafur Annibynnol yn ne Cymru. Dyrchafwyd ef i swydd checkweighman yn 1907. Cafodd ddamwain i'w lygad y flwyddyn ganlynol, ac yn 1909 penodwyd ef yn gynrychiolydd seneddol gan Ffederasiwn Glowyr De Cymru. Rhoddodd sylw arbennig i weithgareddau llywodraeth leol a'r gyfundrefn drethi.

Etholwyd ef yn aelod seneddol (Llafur) dros etholaeth Pontypridd mewn is-etholiad yng Ngorff. 1922 pan orchfygodd y Rhyddfrydwr T. A. Lewis. Daliodd i gynrychioli'r etholaeth hon hyd 1931 ac ymgartrefodd yn 16 Llantwit Road, Pontypridd. Ymwelodd â'r India yn 1927. Ymddiswyddodd yn Chwef. 1931 pan gafodd ei gyhuddo o ganiatäu i'w wraig ddefnyddio'i docyn aelod seneddol ar y rheilffyrdd. Safodd fel ymgeisydd Llafur annibynnol ym Mhontypridd yn etholiad cyffredinol Hyd. 1931, ond 1110 o bleidleisiau yn unig a gafodd.

Mynychodd nifer o gyrsiau astudio yn yr India, y Dwyrain Canol a De Affrica rhwng 1928 ac 1946. Gwasanaethodd fel swyddog staffio'r Weinyddiaeth Gyflenwi yn 1942-44, a bu'n Swyddog Addysg a Lles dros y lluoedd arfog Prydeinig yn y Dwyrain Canol rhwng 1945 ac 1946. Daeth yn ddarlithydd cyhoeddus poblogaidd ar faterion tramor ac arbenigai ar India a'r Dwyrain Canol. Etholwyd ef yn gymrawd o'r Gymdeithas Economaidd Frenhinol a phenodwyd ef yn ddarlithydd swyddogol i'r Bwrdd Glo ar economeg y diwydiant glo. Lluniodd nifer o lyfrau ar waith llywodraeth leol a dulliau o ddiwygio'r gyfundrefn drethi, ac yn eu plith Character, coal and corn — the roots of British power (1949) ac India as a future world power (1952).

Pr. yn 1911 Margaret, merch John Moredecai, Saint Hilari, y Bont-faen, Morg. Bu iddynt ddwy ferch. Cytunodd ef a'i wraig i ymwahanu ym Medi 1933. Bu f. 26 Awst 1970 yn ysbyty Harold Wood, Essex, yn 90 ml. oed.

Llyfryddiaeth:

  • Www;
  • Dod's Parliamentary Companion;
  • The Times, 27 Awst 1970;
  • WWP.

Awdur:

Dr John Graham Jones, Aberystwyth