Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



MATTHEWS, NORMAN GREGORY (1904-1964), canghellor; g. 12 Chwef. 1904 yn Abertawe, unig fab William John ac Agnes Amelia Matthews. Cafodd ei addysg yn ysgol ramadeg Abertawe, Coleg Iesu, Rhydychen, gydag ysgoloriaeth Meyricke (graddio'n B.A. (dosb. II) mewn diwinyddiaeth, 1926, ac M.A. 1930), a choleg diwinyddol St Stephen's House, Rhydychen, 1926. Ord. ef yn ddiacon, 1927, a'i drwyddedu'n gurad eglwys Dyfrig Sant, Caerdydd. Urddwyd ef yn offeiriad, 1928. Yn 1935 penodwyd ef yn warden cyntaf neuadd breswyl S. Teilo, Coleg y Brifysgol, Caerdydd, a daliodd y swydd hyd 1940 pan gafodd fywoliaeth eglwys S. Saviour, y Rhath, Caerdydd. Yr oedd yn genhadwr esgobaethol Llandaf, 1936-40, ac yn arholwr yr esgob o 1938 ymlaen. Gweithredodd fel caplan carchar Caerdydd, 1940-45. Dyrchafwyd ef yn ganon cadeirlan Llandaf, 1946, ac yn ganghellor yn 1952. Yn 1953 cafodd fywoliaeth S. Ffagan lle bu f. 6 Awst 1964 a'i gladdu ym mynwent yr eglwys gadeiriol, Llandaf.

Pr. yn 1953 â Mary Laurella, merch hynaf Walter Rees a Kathleen Olga Thomas o'r Eglwys-wen, Caerdydd. Yr oedd y ddau'n gyd-efrydwyr yn Rhydychen.

Yr oedd yn aelod o gomisiwn litwrgïaidd yr Eglwys yng Nghymru o'i ddechreuad, ac yn aelod o bwyllgor canolog darparu ymgeiswyr am urddau yn yr Eglwys yng Nghymru, ac ysgrifennodd nifer o bamffledi ar yr alwad i'r weinidogaeth. O 1942 ymlaen bu'n darlithio ar lenyddiaeth Saesneg o dan yr awdurdod addysg a'r Cyngor Prydeinig. Bu'n darlledu'n gyson ac yn 1957 daeth yn aelod o banel Cymreig y rhaglen The Brains Trust ar deledu'r B.B.C. Cyfrannai i gylchgronau a phapurau ar bynciau llenyddol, ac yr oedd yn gerddor medrus.

Bu'n fawr ei ddylanwad yn yr Eglwys yng Nghymru, yn bregethwr dawnus, yn gwmnïwr a storïwr diddan ac yn bersonoliaeth hoffus. Ystyrid ef yn un o'r offeiriaid disgleiriaf yn ei ddydd yn yr Eglwys yng Nghymru.

Llyfryddiaeth:

  • Www;
  • Handbk. of the Church in Wales, 1959;
  • Y Llan, 21 Awst 1964;
  • Church Times, 14 Awst 1964;
  • West. Mail, 7 Awst 1964.

Awdur:

Mrs. Mary Gwendoline Ellis, M.A., Aberystwyth