MERRETT, Sir HERBERT HENRY (1886 - 1959), diwydiannwr

Enw: Herbert Henry Merrett
Dyddiad geni: 1886
Dyddiad marw: 1959
Priod: Marion Linda Merrett (née Higgins)
Plentyn: Joan Marion Gridley (née Merrett)
Rhiant: Elizabeth Merrett
Rhiant: Lewis Merrett
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: diwydiannwr
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes
Awdur: David Glanville Rosser

Ganwyd ym mhlwyf Cantwn, Caerdydd, 18 Rhagfyr 1886, yn fab i Lewis ac Elizabeth Merrett. Priododd, 1911, â Marion Linda Higgins a bu iddynt ddwy ferch ac un mab. Addysgwyd ef yng Nghaerdydd; bu'n ynad heddwch Sir Forgannwg ac Uchel Siryf Morgannwg 1934-35. Cydnabyddid ei fod yn un o brif allforwyr glo Cymru ac iddo enw da yn rhyngwladol. Cychwynnodd ar ei yrfa gyda'r Brodyr Cory yn Nociau Caerdydd a daeth yn gadeirydd Powell Duffryn Cyf. Yn 1935-36 yr oedd yn llywydd Bwrdd Masnach Ymgorfforedig Caerdydd, a llywydd Ffederasiwn Allforwyr Glo Prydain 1946-49. Cydnabyddwyd ei gysylltiadau busnes â masnach Ewropeaidd gan Ffrainc trwy ei anrhydeddu'n Chevalier de la Legion d'Honneur, ac urddwyd ef yn farchog yn 1950. Yn ei gyfrol, I fight for coal (1932), disgrifiodd ei ysgarmesoedd cynnar yn y diwydiant glo a'r rhan a gymerodd yn yr hanes cythryblus.

Pan oedd yn ei arddegau cafodd y gair o fod yn bêldroediwr da a chwaraeodd gyda ' Corinthians ' Caerdydd, tîm pêl-droed amatur o fri, ac yn ddiweddarach cafodd gymwysterau i fod yn ddyfarnwr. Penodwyd ef yn gadeirydd Clwb Cymdeithas Pêl-droed Dinas Caerdydd yn 1939 a chydag un toriad byr, ac ar waethaf ei gyfrifoldebau busnes, parhaodd i fod yn gadeirydd hyd 1957. Bu'n llywydd Clwb Criced Sir Forgannwg, cadeirydd Pwyllgor Ymgynghorol y Swyddfa Bost yn Ne Cymru 1936, ac yn aelod o Lys Llywodraethwyr Coleg Prifysgol De Cymru a Mynwy. Bu farw 3 Hydref 1959.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.