Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



MORGAN , JOHN ( 1886 - 1957 ), Archesgob Cymru ;

g. 6 Meh. 1886 yn rheithordy Llandudno, Caern. , yr ieuangaf o bump o blant John Morgan ( Archddiacon Bangor , 1902-24 ). Cafodd ei addysg yn ysgol genedlaethol S. Siôr , Llandudno , ysgol yr eglwys gadeiriol Llandaf , lle'r oedd yn unawdydd yn y côr , Coleg Llanymddyfri a Choleg Hertford , Rhydychen , gydag ysgoloriaeth , a Choleg Cuddesdon . Graddiodd yn B.A. , 1910 , M.A. , 1914 , D.D. Prifysgol Cymru er anrh., 1934 . Urddwyd ef yn ddiacon yn 1910 yn Llanelwy dros Esgob Bangor , a bu'n gurad Llanaber a'r Bermo , 1910- 12 . Urddwyd ef yn offeiriad yn 1911 . Rhwng 1912 ac 1916 bu'n gaplan trigiannol i Esgob Truro , ac yn ficer-offeiriad yn yr eglwys gadeiriol , a hyd 1919 yn gaplan-dros-dro i'r lluoedd arfog . Gwasanaethodd ar y Môr Canoldir , Kinmel , a Shoreham . Dychwelodd i Gymru yn 1917 yn ficer-corawl eglwys gadeiriol Llanelwy a ficer Llanelwy . Yn 1919 penodwyd ef yn offeiriad-mewn-gofal o Lanbeblig a Chaernarfon , ac yn 1920 pan ddaeth deddf datgysylltiad yr Eglwys i rym gwnaed ef yn ficer y plwyf . Tra bu yno gwasanaethodd fel caplan y carchar , a bu'n ddeon gwlad Arfon , 1928-31 . Yn 1931 penodwyd ef yn ganon eglwys gadeiriol Bangor , ac yn 1933 symudodd i fod yn rheithor Llandudno . Y fl. ddilynol etholwyd ef yn esgob Abertawe ac Aberhonddu , i olynu'r Esgob E. L. Bevan , a chysegrwyd ef yn Llanelwy ar Fawrth y Sulgwyn gan Archesgob cyntaf Cymru , Alfred George Edwards ( Bywg. , 171) , a'i hordeiniasai'n ddiacon . Yn 1939 symudodd i fod yn Esgob Llandaf ar farwolaeth yr Esgob Timothy Rees ( Bywg. , 781) , ac yn 1949 etholwyd ef yn Archesgob Cymru i olynu David Prosser ( Bywg. 2, 47) . Bu f. yn ysbyty S. Thomas , Llundain , 26 Meh. 1957 , yn 71 oed, a'i gladdu yn Llandaf .

Gŵr byr o gorff, trylwyr, gofalus o'r manylion, oedd ef, yn mynnu fod popeth yn weddus ac mewn trefn, boed wasanaeth cyffredin neu arbennig. Yr oedd yn drefnydd tan gamp ei hun, a chas oedd ganddo anhrefn ac aflerwch pobl eraill. Gallai fod yn llym ei ddisgyblaeth fel ei dad o'i flaen, ond yr oedd yn raslon a thrugarog pan fyddai gofyn am hynny. Edrychai ar swydd esgob fel gofalaeth ac nid ildiai ronyn ar fater o egwyddor. Yn Aberhonddu gweithredai fel deon yn ogystal â bod yn esgob , a gosododd seiliau cadarn i ganiadaeth a seremonïau'r eglwys gadeiriol. Yn Llandaf yr oedd gofyn llaw gadarn a gwelediad clir i roi trefn ar arweinyddiaeth yr esgobaeth. Daeth y rhyfel yn fuan ar ôl ei benodi a difrodwyd y gadeirlan gan fomiau'r gelyn. Ef a fu'n gyfrifol am ei hailadeiladu a'i hailgysegru yng ngwanwyn 1957 .

Yr oedd yn gerddor medrus a chanai'r organ er yn blentyn yn Llandudno . Bu'n gadeirydd pwyllgor cerdd esgobaeth Bangor , ac ef oedd cadeirydd pwyllgor Emynau'r Eglwys o'r cychwyn yn 1934 a'r is-bwyllgor cerdd o 1939 ymlaen. Cyhoeddwyd yr arg. geiriau yn 1941 , a'r arg. tonau yn 1951 . Yn ystod ei dymor ef y sefydlwyd y comisiwn litwrgïaidd i ddiwygio'r Llyfr Gweddi Gyffredin . Ei weithred gyhoeddus olaf oedd cysegru G. O. Williams yn Esgob Bangor yn Llandaf ar 1 Mai 1957 . Dychwelodd i'r ysbyty y noson honno.

Gan ei fod yn ŵr swil, dim ond ychydig a wyddai am ei ddawn i ddweud stori, i ddynwared ac i siarad iaith tref Caernarfon .

Ffynonellau:

  • Y Llan , 5 Gorff. 1957 , 7 Ebr. 1933 , 13 Ebr. 1934 ;
  • Yr Haul , Haf 1957 ;
  • Province , Summer 1957 ;
  • The Church Times , 28 June 1957 ;
  • Who was who? ;
  • Welsh Church Year Book , 1936 ;
  • Emynau'r Eglwys , Caerdydd, 1951 ( 1951 );
  • Y Crynhoad , Lerpwl , Mai/Meh. 1950 ;
  • Llsgr. T. I. E. ym meddiant yr awdur.

Awdur:

Mrs. Mary Gwendoline Ellis, M.A., Aberystwyth

Blwyddyn Cyhoeddi: 1997