MORGAN, CHARLES LANGBRIDGE ('Menander'; 1894 - 1958), nofelydd, dramodydd

Enw: Charles Langbridge Morgan
Ffugenw: Menander
Dyddiad geni: 1894
Dyddiad marw: 1958
Priod: Hilda Campbell Morgan (née Vaughan)
Plentyn: Elizabeth Shirley Vaughan Paget (née Morgan)
Plentyn: Roger Morgan
Rhiant: Mary Morgan (née Watkins)
Rhiant: Charles Langbridge Morgan
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: nofelydd, dramodydd
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Perfformio
Awdur: Mary Auronwy James

Ganwyd 22 Ionawr 1894, yn blentyn ieuangaf Syr Charles Langbridge Morgan, peiriannydd, a Mary (ganwyd Watkins) ei wraig. Ymfudodd ei deidiau o Sir Benfro i Awstralia lle y priododd ei rieni. Ymunodd â'r Llynges yn 1907 gan ddod yn swyddog cyn ymddiswyddo yn 1913 i ennill ei fywoliaeth wrth lenydda, er iddo ddychwelyd i'r llynges yn ystod y ddau Ryfel Byd. Aeth i Goleg y Trwyn Pres, Rhydychen, 1919-21, a graddio. Yna ymunodd â'r Times, gan ddod yn enwog fel gohebydd beirniadol ar y ddrama, 1926-39. Derbyniodd lawer gradd er anrhydedd. Yr oedd yn un o aelodau dethol estron l'Institut de France; etholwyd ef yn llywydd yr English Association 1953-54 a'r Gyngres Lenyddol Ryngwladol i Awduron 1954-56. Ac eithrio'i ddwy nofel gyntaf, ysgrifennodd gyfres ddi-dor o gampweithiau llenyddol arbennig o artistig, o arwyddocâd dwfn, a'u traethiad yn rymus ac amrywiol. Dyfarnwyd iddo wobr Femina-Vie Heureuse am Portrait in a Mirror (1929); gwobr Hawthornden am The Fountain (1932); a gwobr goffa James Tait Black am The Voyage (1940). Dramodwyd The River Line (1949) a'i chynhyrchu yng ngwyl Caeredin yn 1952.

Yn Llundain y treuliodd y rhan fwyaf o'i oes. Trwy ei wraig, Hilda Campbell Vaughan o Lanfair-ym-Muallt, nofelydd a briododd, 6 Mehefin 1923, ac a ddug iddo fab Roger, a merch ( Ardalyddes Môn), y daeth, o bosib, i gysylltiad agosaf â Chymru. Cyfansoddwyd ei ddrama gyntaf, The Flashing Stream (1938), tra oedd ar wyliau ger Llyn Syfaddan, Brycheiniog. Treuliodd ddau gyfnod hir yn Sir Benfro hefyd, pryd yr ysgrifennodd A breeze of morning (1951). Ysgrifennodd hanes cwmni Macmillan (1943); cyhoeddwyd casgliad o'i ddarlithiau ac ysgrifau wedi ei farwolaeth yn The writer and his world (1960). Bu farw 6 Chwefror 1958.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.