Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



MORGAN , TREFOR RICHARD ( 1914 - 1970 ), rheolwr cwmni ;

g. 28 Ion. 1914 ar Donyrefail, Morg. , yn bumed plentyn i Samuel ac Edith (g. Richards ) Morgan . Hanai teulu'r tad o ardal Llanbedr-y-fro? a theulu'r fam o Lanilltud Faerdref . Saer maen oedd y tad a fu farw yn 1918 o'r afiechyd a ysgubodd dros y wlad yn sgîl Rhyfel Byd I . Bu raid i'r fam ymdrechu i fagu saith o blant mewn tlodi mawr. Bedyddwyr ymroddedig oedd y teulu o'r ddau du. Buasai hynafiaid iddo'n gysylltiedig â chychwyn yr achos yng Nghroes-y-Parc , Llanbedr-y-fro , a hen dad-cu iddo'n gweinidogaethu ar gychwyn eglwys y Bedyddwyr ym Mhenuel , Pentyrch . Cafodd ei unig addysg ffurfiol yn yr ysgol elfennol leol, addysg gwbl ddi-Gymraeg yn ôl yr arferiad. Yn ddiweddarach yn ei fywyd, ceisiai gywiro'r gwall trwy fynychu dosbarthiadau nos mewn Cymraeg a Hanes Cymru. Enillodd fynediad i ysgol ramadeg y Bont-faen ond ni allai fynd yno oherwydd amgylchiadau cyfyng y teulu. Gadawodd yr ysgol yn bedair ar ddeg oed a mynd i weithio i'r pwll glo lleol er taw bregus fu ei iechyd erioed. Oherwydd y dirwasgiad yn ardaloedd y diwydiant glo bu raid iddo fynd ati i gyflawni amryw orchwylion eraill yn ystod y blynyddoedd nesaf.

Bu'n genedlaetholwr cadarn ar hyd ei oes. Fe'i harweiniwyd i sir Benfro gan yr ymchwil am waith ac atgyfnerthwyd y cenedlaetholdeb hwnnw gan y gyfathrach agos iawn a fu rhyngddo a D. J. Williams (gw. isod) a'i briod yn Abergwaun . Bu'n wrthwynebydd cydwybodol ar dir cenedlaetholdeb yn ystod Rhyfel Byd II . Yn 1943 , pr. Gwyneth , merch Arthur a Mary (g. Daniel ) Evans o Aberdâr , a bu iddynt bedwar o blant.

Bu'n ymgeisydd Plaid Cymru mewn etholiadau seneddol yn etholaethau Ogwr , 1945 , 1946 , Abertyleri 1955 a Brycheiniog a Maesyfed 1964 , 1966 gan sefyll fel cenedlaetholwr annibynnol ym Merthyr Tudful , 1950 . Yn ôl barn olygyddol Y Faner wedi ei farw ‘yr oedd yn un o'r siaradwyr cyhoeddus mwyaf effeithiol a feddai Plaid Cymru ; traethai wirioneddau llosg yn huawdl ac argyhoeddiadol a gallai ddadlau tros achos cenedlaetholdeb cystal ag undyn byw’. Ond daliai bob amser nad oedd ymdrechu ar dir etholiadau, boed seneddol neu leol, yn ddigon a cheisiai droi'n ffeithiau ymarferol yr egwyddorion a bregethai. Egwyddorion sylfaenol ganddo oedd pwysleisio gwerth hanfodol yr iaith Gymraeg a'r angen i geisio creu sefydliadau Cymreig cwbl annibynnol. I'r perwyl hwn, mentrodd sefydlu cwmni yswiriant a buddsoddi, ar ei ben ei hun, gyda'r bwriad o ddefnyddio unrhyw elw at ddau beth arbennig, sef codi diwydiannau bychain yn lleol a hyrwyddo'r ymdrechion i fynnu ysgolion Cymraeg drwy Gymru gyfan. Cychwynnwyd y cwmni, sef Cwmni Undeb , yn Aberdâr a llwyddwyd i sefydlu stad ddiwydiannol fechan ar Hirwaun . Yn 1963 , sefydlodd Gronfa Glyndŵr yr Ysgolion Cymraeg ac ef oedd ei llywydd cyntaf. Amcan y gronfa oedd estyn cymorth ariannol i rieni ac ysgolion er galluogi plant i fynychu'r ysgolion Cymraeg a sefydlid yn bennaf gan y rhieni eu hunain yr adeg honno; rhan o waith pwysicaf y gronfa oedd codi a chynnal ysgolion meithrin Cymraeg . Oherwydd cyndynrwydd awdurdodau addysg lleol i ddarparu addysg uwchradd Gymraeg , penderfynodd gychwyn ysgol breswyl Gymraeg , yn gynradd ac uwchradd, gyda phwyslais arbennig ar ddysgu pob pwnc trwy gyfrwng y Gymraeg . Agorwyd Ysgol Glyndŵr ym Mryntirion , Trelales , ger Pen-y-bont ar Ogwr ym Medi 1968 ond fe ddaeth i ben yn fuan wedi ei f. yn Ysbyty Pen-y-bont ar 3 Ion. 1970 . Claddwyd ef ym Mynwent Trane , Tonyrefail , ar Ion. 9 .

Ffynonellau:

  • Gwybodaeth bersonol.

Awdur:

Mrs Gwyneth Morgan, (1916-98), Tonyrefail

Blwyddyn Cyhoeddi: 1997