MORRIS, CAREY (1882 - 1968), arlunydd

Enw: Carey Morris
Dyddiad geni: 1882
Dyddiad marw: 1968
Priod: Jessie Morris (née Phillips)
Rhiant: Elizabeth Boynes Morris
Rhiant: Benjamin Morris
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: arlunydd
Maes gweithgaredd: Celf a Phensaernïaeth
Awdur: Elis Gwyn Jones

Ganwyd 17 Mai 1882 yn Llandeilo, Caerfyrddin, mab Benjamin ac Elizabeth Boynes Morris. Bu yn ysgol sir Llandeilo, a gwrthryfelodd yn gynnar yn erbyn dulliau mecanyddol y Bwrdd Addysg o ddysgu arlunio. Aeth i'r Slade yn Llundain, a rhagorodd ar astudio anatomi dan gyfarwyddyd Henry Tonks. Priododd yn 1911 â Jessie Phillips, a daeth yn aelod o'r gymdeithas niferus o arlunwyr a weithiai yn Newlyn, Cernyw. Symudodd gyda'i wraig, a oedd yn awdur a golygydd, i Lundain, lle bu ganddo stiwdio yn Cheyne Walk, Chelsea. Yno daeth i gysylltiad ag arlunwyr amlwg y cyfnod, yn ogystal â llenorion a cherddorion. Chwaraeai yntau'r soddgrwth mewn nosweithiau cerddorol. Dychwelai'n aml i beintio yn Llandeilo a dyffryn Tywi, ond ymunodd â'r fyddin yn 1914, a chomisiynwyd ef yn swyddog yn y South Wales Borderers. Dioddefodd effeithiau nwy yn Fflandrys, ac amharwyd ar ei iechyd am weddill ei oes. Daliai ei fod o linach Morysiaid Môn (John, Lewis, Morris, Richard a William Morris), ac ymhlith ei ddiddordebau wedi'r rhyfel yr oedd mater celf a chrefft yr Eisteddfod Genedlaethol Gwelai angen diwygio defodau'r Orsedd, ac ysgrifennodd gryn dipyn ar y pwnc. Cyhoeddodd erthyglau ar gelfyddyd, megis ' Personality as a force in art ' ac ' Art and religion in Wales '.

Gweithiodd ar dirluniau a phortreadau ym mhob rhan o Gymru, ac fe'i noddid gan deuluoedd bonheddig. Cyfaill mawr iddo oedd Syr Joseph Bradney, hanesydd sir Fynwy. Bu'n darlunio llyfrau, yn arbennig y llyfrau i blant a ysgrifennai ei wraig, a gwnaeth y darluniau i argraffiad Edward Tegla Davies o Taith y pererin. Bu farw 17 Tachwedd 1968 a chladdwyd ef ym mynwent Llandeilo.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.