MORRIS
,
Syr
RHYS HOPKIN
(
1888
-
1956
),
gwleidydd a gweinyddwr
;
g.
5 Medi 1888
ym
Mlaencaerau
, fferm yn
Nhir Iarll, Morg.
yn fab i
John
Morris
,
gweinidog
Seion (A)
,
Caerau
,
Maesteg
, a
Mary
(g.
Hopkin
)
ei wraig. Gan fod ei gartref ymhell o ysgol cafodd ei addysg gynnar gan ei rieni. Cafodd le fel
disgybl athro
yn
ysgol Glyncorrwg
o dan
Lewis
Davies
(gw. uchod)
yn
1902
. Collodd ei rieni yn
1904
a gofalwyd amdano ef a'i chwaer gan ei ewythr
Rhys
Hopkin
. Yn
1910
derbyniwyd ef i
Goleg y Brifysgol
ym
Mangor
, lle yr amlygodd ei ddawn fel
dadleuydd
. Bu'n
llywydd y myfyrwyr
yn
1911
a graddiodd gydag anrhydedd mewn athroniaeth yn
1912
. Bu'n dysgu yn
ysgol ramadeg Bargod
am ychydig cyn
ymuno â'r fyddin
yn
1914
gan ddod yn
swyddog
yn
ail fataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig
.
Enwyd ef ddwywaith mewn cadnegesau
a chafodd
M.B.E.
am ei wrhydri. Clwyfwyd ef a bu'n dioddef o'r effeithiau ar hyd ei oes. Wedi'r rhyfel dechreuodd astudio'r gyfraith yng
Ngholeg y Brenin
,
Llundain
. Derbyniwyd ef yn
fargyfreithiwr
yn y
Middle Temple
yn
1920
a gweithio yng
nghylchdaith De Cymru
. Bu'n cefnogi
ymgeiswyr Rhyddfrydol
mewn etholiadau ac wedi m.
W. Llewelyn
Williams
(
Bywg.
, 1020)
yn
1922
dewiswyd ef fel ymgeisydd y
Rhyddfrydwyr Annibynnol
yng
Ngheredigion
. Er iddo golli etholiad
1922
etholwyd ef gyda mwyafrif sylweddol i gynrychioli
Ceredigion
yn y senedd ym mis
Rhag. 1923
. Gadawodd
Dŷ'r Cyffredin
yn
1932
i gymryd swydd
ynad cyflogedig
yn
Llundain
, swydd a lanwodd gyda disgleirdeb am 4 bl. Ym mis
Hyd. 1936
dechreuodd ar ei waith fel
cyfarwyddwr cyntaf rhanbarth newydd Cymru
'r
B.B.C.
, lle y dangosodd annibyniaeth
meddwl, a oedd mor nodweddiadol ohono, yn nyddiau anodd y rhyfel, a bu'n gefn i nifer o bobl ieuainc a ddaeth yn amlwg ym myd darlledu a theledu yng
Nghymru
. Gweithiodd yn ddygn dros yr hawl i barhau i ddarlledu rhaglenni
Cymraeg
yn ystod y rhyfel. Dychwelodd i fyd gwleidyddiaeth fel
aelod (Rh.)
dros etholaeth
Gorllewin Caerfyrddin
yn
1945
a chadwodd y sedd hyd ddiwedd ei oes. Cynrychiolodd y senedd ar ddirprwyaeth i
ddwyrain Affrica
yn
1928
, bu'n
aelod o'r comisiwn ar y terfysg
ym
Mhalesteina
yn
1929
, a chyfarfyddodd â
Gandhi
fel
aelod o ddirprwyaeth
i'r
India
yn
1946
o dan arweiniad
Robert
Richards
(gw. isod)
. Aeth ar daith ddarlithio lwyddiannus i
T.U.A.
yn
1949
. Dewiswyd ef yn
ddirprwy gadeirydd
Pwyllgorau Tŷ'r Cyffredin
, a thrwy hynny'n
ddirprwy lefarydd y Tŷ
. Dyrchafwyd ef yn
Gwnsler y Brenin
yn
1946
, ei urddo'n
farchog
yn
1954
a chafodd radd
LL.D. er anrh.
gan
Brifysgol Cymru
yn
1956
. Ysgrifennodd adroddiad ar gyflwr
Tanganyika
wedi ei ymweliad ag
Affrica
yn
1928
,
Welsh politics
(
1927
), a
Dare or despair
(
1950
). Ysgrifennai ar bynciau athronyddol hefyd a chyfieithodd gyfrol o farddoniaeth
Sarnicol
,
Blackthorn blossoms
. Yr oedd yn annibynnol ei farn, treiddgar ei feddwl, dewr ei ysbryd a chywir ei fuchedd. Bu f. yn sydyn yn ei gartref yn
Sidcup
ar
22 Tach. 1956
. Cynhaliwyd gwasanaeth coffa iddo yn eglwys
S. Margaret
,
Westminster
,
capel King's Cross (A)
,
Llundain
a
chapel Heol Awst (A)
,
Caerfyrddin
.
Pr. yng
nghapel Charing Cross (MC)
,
Llundain
,
11 Medi 1918
, â
GWLADYS PERRIE
WILLIAMS
(g.
24 Tach. 1889
)
a fuasai'n gydfyfyriwr ag ef ym
Mangor
, merch
W. H.
Williams
,
Dinam
,
Llanrwst
, a'i wraig
Elizabeth
,
awdur
Brethyn cartref
(
1951
). Cafodd hi radd
D.Lit.
ym
Mhrifysgol Paris
yn
1917
a threuliodd weddill
Rhyfel Byd I
fel
trefnydd
Byddin Tir y Merched
yn
ne Cymru
. Cafodd swydd wedyn fel
pennaeth
ysgol addysg bellach Debenham
, a bu'n
brif arholwr allanol i nifer o awdurdodau addysg
. Rhoddodd flynyddoedd o wasanaeth gwerthfawr i'r
Egyptian Exploration Society
gan fod yn
ysgrifennydd mygedol
o
1937
nes iddi symud i
Gaerdydd
ar farwolaeth ei gŵr. Cyhoeddodd ei thraethawd am ddoethuriaeth
Li Biaus descouneüs de Renaud de Beaujeu
(
1915
),
Le Bel inconnu
(
1929
),
Welsh education in sunlight and shadow
(
1918
),
The Northamptonshire composition scale
(
1933
), ynghyd â gweithiau eraill ar addysg. Bu f.
13 Gorff. 1958
. Bu iddynt un ferch,
Perrie
(g.
1923
), a br.
Alun
Williams
,
sylwebydd
y
B.B.C.
, yn
1944
.
Ffynonellau:
-
Y Dysgedydd
1957
, 8-11;
-
Who was who?
;
-
Thomas John Evans
,
Sir Rhys Hopkin Morris M.B.E., Q.C., M.P.,
LL.D. the man and his character
(Llandysul, 1958)
(
1958
);
- gwybodaeth gan eu merch;
-
gw. hefyd
John Emanuel
a
D. Ben Rees
,
Syr Rhys Hopkin Morris
(1980)
(
1980
);
- papurau Syr Rhys Hopkin Morris yn LlGC.
Awduron:
David Alun Williams (1920-92), Caerdydd
Evan David Jones, F.S.A., (1903-87), Aberystwyth