Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



MORRIS , PERCY ( 1893 - 1967 ), gwleidydd ac undebwr llafur ;

g. 6 Hyd. 1893 yn Abertawe , yn fab i Thomas ac Emma Morris . Addysgwyd ef yn ysgol gynradd Manselton ac ysgol uwchradd Dinefwr , Abertawe . Bu'n gysylltiedig â gwleidyddiaeth Lafur yn ei ieuenctid, a bu galw mawr amdano fel siaradwr cyhoeddus huawdl hyd yn oed cyn iddo adael yr ysgol. Yn 1908 penodwyd ef i swydd weinyddol ar reilffordd y Great Western , a daeth yn undebwr Llafur pybyr ar unwaith. Cafodd ei ethol yn aelod o gyngor sir Bwrdeisdref Abertawe yn 1927 . Daeth yn henadur o'r cyngor ac yn 1935 fe'i dewiswyd yn gadeirydd ar bwyllgor seneddol y cyngor . Gwasanaethodd fel dirprwy faer yn 1944-45 , a maer y cyngor yn 1955-56 , a bu'n aelod o nifer fawr o'i bwyllgorau. Cafodd ei benodi'n ynad heddwch dros ddinas Abertawe yn 1939 . Bu'n drysorydd Cymdeithas Clercod y Rheilffyrdd rhwng 1937 ac 1943 , yn llywydd y Gymdeithas , 1943-53 , ac yn Ddirprwy Gomisiynydd Rhanbarthol Amddiffyn Sifil ar gyfer rhanbarth Cymru o 1941 hyd 1945 . Yr oedd yn llywydd Cymdeithas Lafur Abertawe yn ystod Rhyfel Byd II .

Safodd yn aflwyddiannus fel ymgeisydd Llafur yn erbyn Syr Lewis Jones (gw. uchod) yn etholaeth Gorllewin Abertawe yn etholiad cyffredinol 1935 . Etholwyd ef yn aelod seneddol (Llafur) dros yr un etholaeth yn 1945 a pharhaodd i gynrychioli Gorllewin Abertawe yn y senedd hyd 1959 pan gollodd ei sedd i'r Ceidwadwr J. E. H. Rees o 403 o bleidleisiau. Bu'n aelod o ddirprwyaeth seneddol i'r Dwyrain Pell yn 1955 . Yr oedd hefyd yn aelod o'r Bwrdd Cynhorthwy Cenedlaethol , 1961-66 , yn ddirprwy gadeirydd arno, 1965-66 , ac yn ddirprwy gadeirydd y Comisiwn Budd-daliadau Atodol , 1966-67 .

Bu'n aelod o gyngor Coleg y Brifysgol , Abertawe , am flynyddoedd. Chwaraeodd ran bwysig yng ngwleidyddiaeth Lafur Abertawe am fwy na 40 ml. Yr oedd yn Annibynnwr selog, yn bregethwr lleyg , a bu'n gadeirydd Cyfundeb Dwyrain Caerfyrddin o Undeb yr Annibynwyr rhwng 1927 ac 1945 . Daeth yn rhyddfreiniwr bwrdeistref Abertawe yn 1958 a derbyniodd y C.B.E. yn 1963 .

Pr. (1) yn 1920 Elizabeth , merch William Davies . Cafodd hi, ei chwaer ef, a'i frawd-yng-nghyfraith eu lladd yn ystod bomio Abertawe gan yr Almaenwyr yn Ion. 1941 . Pr. (2) yn 1956 Catherine Evans . Ymgartrefai yn 30 Lôn Cedwyn , Cwmgwyn , Abertawe . Bu f. 7 Mawrth 1967 .

Ffynonellau:

  • Who was who? ;
  • Dod's Parliamentary Companion ;
  • The Times , 8 a 15 Mawrth 1967 ;
  • Mynegai Bywgraffyddol W.W. Price (yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Llyfrgell Gyhoeddus Aberdâr) .

Awdur:

Dr John Graham Jones, Aberystwyth

Blwyddyn Cyhoeddi: 1997