MORRIS, JOHN RICHARD (1879 - 1970), llyfrwerthwr, llenor

Enw: John Richard Morris
Dyddiad geni: 1879
Dyddiad marw: 1970
Priod: Elizabeth Morris
Rhiant: Jane Morris
Rhiant: Richard Morris
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: llyfrwerthwr, llenor
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: Mary Auronwy James

Ganwyd 13 Awst 1879 yn fab i Richard Morris, chwarelwr a fu farw 6 Mawrth 1884 yn Ebeneser, Llanddeiniolen, Sir Gaernarfon, a Jane ei wraig a briododd eilwaith. Addysgwyd ef yn ysgolion Penisa'r-waun a Llanrug, heb anghofio'r Ysgol Sul a'r Band of Hope. Yn un ar ddeg oed aeth yn was bach ar dyddyn ei ewythr am ddwy flynedd, ac wedi gweithio saith mlynedd mewn chwarel dihangodd i fynd yn löwr yn Ashton-in-Makerfield, Caerhirfryn, 1899-1910. Torrodd ei iechyd, symudodd i Lerpwl a chafodd amryw swyddi cyn iddo ef a Rolant Wyn agor siop lyfrau Cymraeg yno. Ehangwyd y busnes i gynnwys teipio, argraffu, a chyhoeddi dramâu o dan yr enw Wyn Edwards a Morris, a throsi dramâu Ibsen ac eraill i'r Gymraeg. Methodd y busnes adeg y dirwasgiad ond yn 1933 agorodd J. R. Morris siop lyfrau Cymraeg lwyddiannus iawn yng Nghaernarfon a werthwyd ar ei ymddeoliad yn 80 oed. Ymgartrefodd yn Hafod Lên, Bethel, o 1939 ymlaen.

Hanai o deulu cerddorol, ac enillodd wobrau fel unawdydd, a choron a chadeirau lawer am farddoniaeth. Cymerodd ran flaenllaw ym mywyd y Cymry yn Lloegr fel ysgrifennydd eisteddfodau, athro Ysgol Sul, arweinydd côr plant a phregethwr lleyg. Yr oedd yn un o sefydlwyr Undeb y Ddraig Goch yn Lerpwl yn 1918, mudiad a'i nod am hunan-lywodraeth i Gymru; a chynhaliodd ddosbarthiadau i ddysgu'r cynganeddion. Ceir casgliad mawr o englynion ymhlith ei bapurau yn y Llyfrgell Genedlaethol. Cyhoeddwyd llawer o'i ysgrifau a'i farddoniaeth mewn cyfnodolion a newyddiaduron. Ond fel llyfrwerthwr y cofir ef; cerddodd ocsiynau dirifedi i brynu llyfrau, a gwerthodd lawer i'r Amerig. Nodwedd arbennig ar ei siop oedd ei stoc fawr o gerddoriaeth- cyhoeddodd restr o 800 o unawdau Cymraeg - a chadwai bob drama Gymraeg y medrai eu cael. Yr oedd yn awdur comedi, Luned (1928), ac wedi ymddeol ysgrifennodd Atgofion llyfrwerthwr (1963) a nofel, Allwedd Serch, sydd ymhlith ei bapurau yn Ll.G.C.

Priododd (gwanwyn 1905?) a bu iddo ef a'i wraig Elizabeth ddau o blant a fu farw yn ifanc. Bu hi farw 21 Medi 1950 ac yntau 26 Ebrill 1970. Claddwyd ef ym mynwent eglwys Llanrug.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.