MYRDDIN-EVANS, Syr GUILDHAUME (1894 - 1964), gwas sifil

Enw: Guildhaume Myrddin-evans
Dyddiad geni: 1894
Dyddiad marw: 1964
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gwas sifil
Maes gweithgaredd: Gwasanaethau Cyhoeddus a Chymdeithasol, Gweinyddiaeth Sifil
Awdur: John Graham Jones

Ganwyd 17 Rhagfyr 1894, yn ail fab i Thomas Towy Evans, gweinidog (B) ym Mlaenau Gwent, Abertyleri, Mynwy, a Mary (ganwyd James) ei wraig. Addysgwyd ef yn ysgol elfennol Cwmtyleri, ysgol y sir, Abertyleri, Coleg Llanymddyfri, a Christ Church, Rhydychen, lle graddiodd gydag anrhydedd Dosbarth I mewn Mathemateg. Gwasanaethodd fel is-gapten gyda'r South Wales Borderers yn Ffrainc a Fflandrys yn ystod Rhyfel Byd I a chafodd ei niweidio'n ddrwg. Bu'n aelod o ysgrifenyddiaeth bersonol Lloyd George yn Downing Street yn 1917 ac yn ysgrifennydd cynorthwyol i gabinet y rhyfel yn 1919. Daliodd nifer o swyddi allweddol o fewn y Trysorlys rhwng 1920 ac 1929 pan benodwyd ef i'r Weinyddiaeth Lafur. Yn 1938 dewiswyd ef yn brif ysgrifennydd preifat yn y Weinyddiaeth Lafur. Ef oedd pennaeth y Production Executive Secretariat o fewn swyddfeydd cabinet y rhyfel yn 1941 ac yn ymgynghorydd i Gomisiwn Gweithlu Rhyfel llywodraeth Taleithiau Unedig America yn 1942. Bu hefyd yn ymgynghorydd i lywodraeth Canada. Dychwelodd i'r Weinyddiaeth Lafur a'r Gwasanaeth Gwladol fel is-ysgrifennydd yn 1942 a dirprwy ysgrifennydd yn 1945. Ef oedd cynrychiolydd llywodraeth Prydain Fawr ar gorff llywodraethol y Swyddfa Lafur Ryngwladol rhwng 1945 ac 1959 a bu'n gadeirydd arni dair gwaith. Yr oedd yn brif ymgynghorwr ar lafur rhyngwladol i'r llywodraeth rhwng 1955 ac 1959 pan ymddeolodd. Bu'n gadeirydd ar Gomisiwn Llywodraeth Leol yng Nghymru yn 1959, a phrofodd ei hun yn boblogaidd a chyfeillgar ac eto'n effeithiol. Ymddangosodd adroddiad y comisiwn yn 1963.

Yr oedd yn aelod o gyngor Undeb Bedyddwyr Prydain Fawr ac Iwerddon o 1943, a gwasanaethodd hefyd fel ysgrifennydd capel y Bedyddwyr yn Bloomsbury, Llundain. Ef oedd cyd-awdur y gyfrol The employment exchange of Great Britain (1934). Derbyniodd y C.B. yn 1945 a'r K.C.M.G. yn 1947.

Priododd yn 1919 Elizabeth (a fu farw yn 1981), merch Owen Watkins, Sarn, Sir Gaernarfon. (Bu Watkins hefyd yn aelod o ysgrifenyddiaeth bersonol Lloyd George yn ystod Rhyfel Byd I). Bu iddynt ddau fab. Bu farw 15 Chwefror 1964 yn ei gartref 6 Chester Place, Regent's Park, Llundain.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.