Gwasanaethodd yn y ddau Ryfel Byd (gyda'r gwŷr traed, 1915-19; R.A.S.C., ac yn ddiweddaf fel uchgapten yn Adran Hanes y Swyddfa Ryfel, 1940-45); ymhlith ei ddiddordebau eraill ymfalchîai'n arbennig yn ei aelodaeth yng Nghorff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru.
Pr. yn 1931 Margaret Elizabeth, merch William Luck, Lerpwl; bu iddynt 2 fab. Bu f. 15 Rhag. 1955.
Treuliodd Nash-Williams ei holl yrfa broffesiynol yng ngwasanaeth Amgueddfa Gen. Cymru a Choleg y Brifysgol yng Nghaerdydd. Pan benodwyd Mortimer Wheeler y bu'n un o'i ddisgyblion cynnar, yn gyfarwyddwr yr Amgueddfa yn 1924, cynigiwyd ceidwadaeth-gynorthwyol yr adran archaeoleg i Nash-Williams dan Cyril Fox (gw. uchod); a phan ddaeth Fox yn gyfarwyddwr yn ei dro, daeth Nash-Williams yn geidwad adran archaeoleg yr Amgueddfa a darlithydd mewn archaeoleg yn y coleg, swydd a gysylltwyd â'r geidwadaeth oddi ar ddyfodiad Wheeler yn 1920; Nash-Williams, fodd bynnag, oedd yr olaf i ddal y ddwy swydd. Yn y cyfnodau Rhufeinig a Christionogol cynnar yn bennaf y gorweddai ei brif ddiddordebau. Yr oedd yn gloddiwr brwdfrydig a dyfal, wedi llyncu dysgeidiaeth gynnar Wheeler, ond heb ddatblygu ymhellach: ei adroddiadau cloddio gorau, felly, yw ei rai cynnar — ar Gae Jenkins a'r Prysg yn Nghaerllion, ac ar y baddonau &c, a'r amddiffynfeydd yng Nghaer-went. Ynglŷn â Chaer-went bu'n cloddio ar y fryngaer o'r Oes Haearn Ddiweddar yn Llanmelin ac ar y gaer benrhyn ar lan Hafren ger Sudbrook; yn ddiweddarach, bu'n ailgloddio'r fila Rufeinig yn Llanilltud Fawr, ac adeg ei farw yr oedd ar waith ar gyfres bwysig o gloddiadau y tu allan i gaer y llengoedd yng Nghaerllion. Ei gyhoeddiad cyffredinol cyntaf yn y maes Rhufeinig oedd ei Catalogue of the Roman inscribed and sculptured stones found at Caerleon (1935), gyda'i frawd, Alva Harry, yn gyd-awdur; ei un olaf o'r fath, The Roman frontier in Wales (1954), — ‘llym o ffeithiol’, yn ôl H. J. Randall (gw. isod). Yn y ddau dangosodd allu pendant i ddadansoddi, cywasgu, a threfnu defnyddiau amrywiol; a dangoswyd y nodwedd hon i raddau mwy a gwerthfawrocach hyd yn oed yn yr un gwaith ganddo y gellir yn gyfiawn hawlio ei fod yn gampwaith, i'r hwn yr aeth cariad a llafur blynyddoedd lawer, a theimladrwydd ysbrydol Cristion defosiynol hefyd, ei Early Christian monuments of Wales (1950). Y mae'r arysgrif goffa ar efydd yn yr Amgueddfa Lengol yng Nghaerllion, sy'n awr gyferbyn â'r arysgrif fawr ymerodrol o'r fl. 100 AD a ddarganfuwyd ganddo ef ei hun, yn gorffen gyda'r llinellau hyn, o'u cyfieithu: ‘Yr oedd yn rasol mewn bywyd, yn fanwl mewn ysgolheictod, yn ddiofn wrth amddiffyn yr hyn y credai ef mai'r gwirionedd ydoedd, yn ddi-feth mewn cyfeillgarwch, yn anhunanol wasanaethgar i'w gydweithwyr, ei staff, a'i fyfyrwyr’.
George Counsell Boon (1927-94), Penarth