Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



NEPEAN (g. BELLIS), MARY EDITH (1876-1960), nofelydd; g. yn Llandudno, Caern., 1876 yn ferch i John Bellis, un o gynghorwyr sir Gaernarfon a Mary ei wraig. Cafodd ei haddysg gartref, astudiodd gelfyddyd gyda Robert Fowler, ac yn ddiweddarach cafodd beth o'i gwaith ei arddangos mewn nifer o arddangosfeydd. Pr. yn 1899 Molyneux Edward Nepean, un o deulu o weision sifil uchel eu graddfa, ac aeth i Loegr i fyw, gan gymdeithasu mewn cylchoedd llenyddol yn Llundain. Yn 1932 cyhuddodd Caradoc Evans (Bywg. 2, 13) o enllib yn ei herbyn yn ei nofel Wasps (1933), a gorfododd iddo wneud newidiadau yn y llyfr cyn ei gyhoeddi. Cymerodd ran yn y bywyd cyhoeddus, gan ddod yn ‘Commandant’ adran yn y Groes Goch yn swydd Caint, a theithiodd yn helaeth yn y Dwyrain Agos a'r Balcaniaid gan gymryd diddordeb arbennig ym mywyd sipsiwn Transilfania.

Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, Gwyneth of the Welsh Hills, yn 1917, sy'n dangos dylanwad arddull Allen Raine (Anne Adalisa Puddicombe, Bywg., 762) a Caradoc Evans. Dilynwyd hon gan 34 o nofelau rhamantaidd, ysgafn, bron i gyd gyda chymeriadau a chefndir Cymreig. Ysgrifennodd un teithlyfr, Romance and realism in the Near East (1933), ynghyd â llawer o erthyglau poblogaidd i'r wasg newyddiadurol. Bu f. ei gŵr yn 1948. Bu hithau f. 23 Maw. 1960 a chladdwyd hi ym mynwent Y Gogarth, Llandudno.

Llyfryddiaeth:

  • Www;
  • T. Ll. Williams, Caradoc Evans (1970), 93-4;
  • Llandudno and District Advertiser, 26 Maw. a 2 Ebr. 1960.

Awdur:

Sally Roberts Jones, Port Talbot