Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



NICHOLAS, JAMES (1877-1963), gweinidog (B); g. 12 Ion. 1877 yn y Bryn, Cwmfelinmynach, Llanwinio, Caerf., yn fab i Benjamin Nicholas (bu f. 10 Awst 1931 yn 88 ml. oed) a Mary Nicholas (bu f. 23 Hyd. 1900 yn 56 ml. oed), y tad yn aelod gyda'r Annibynwyr yn Llanboidy a'r fam gyda'r Bedyddwyr yn Ramoth, Cwmfelinmynach, a'r ddau wedi eu cofnodi ar eu carreg fedd ym mynwent Ramoth fel o Flaendyffryn. Bu William Thomas, gweinidog (A) Llanboidy, yn drwm ei ddylanwad arno, ond gyda'i fam yn Ramoth yr ymaelododd. Bedyddiwyd ef yn 16 ml. oed gan y gweinidog D. S. Davies (‘Dafis Login’), a thraddododd ei bregeth cyntaf yn Ebr. 1898. Wedi naw mis yn Ysgol yr Hen Goleg, Caerfyrddin, bu'n fyfyriwr yn y Coleg Presbyteraidd yno o 1899 hyd 1901. Ord. ef 14 Hyd. 1901 yn weinidog Moreia, Tonypandy, a gwelodd yr eglwys ieuanc yn tyfu'n achos llewyrchus ac yn cynllunio addoldy newydd iddi ei hun yn 1906. Gwelodd hefyd ysgwyd Cwm Rhondda gan Ddiwygiad 1904-05 a chynnydd y Mudiad Llafur, ac ef (fel William John a fu'n ysgrifennydd eglwys Moreia) oedd un o'r ychydig a geisiodd osgoi'r ymddieithrio a'r ysgaru a ddigwyddodd rhwng y ddau ddylanwad: am ei ymateb personol i'r sefyllfa gw. yr ysgrifau ar ‘O Fwg Morgannwg’ gan ‘O.K.’ y gellir yn ddiogel eu priodoli iddo yn y cyfnod Hyd. 1907-Mawrth 1908 yn Y Piwritan newydd (cylchgrawn Bedyddwyr de-orllewin Cymru). Rhyddhawyd ef dros dro o'i ofalaeth yn 1915 i wasanaethu gyda'r Y.M.C.A. yn Ffrainc, ond ymhen blwyddyn derbyniodd alwad i eglwys Castle Street, Llundain, a sefydlwyd ef yno 26 Hyd., a David Lloyd George (Bywg. 2, 39-40) yn llywyddu'r oedfa. Bu'r blynydoedd nesaf ar lawer ystyr yn gyfnod cofiadwy yn hanes yr eglwys, e.e. adnewyddu'r addoldy yn 1924, noddi eglwysi mewn cyni yng Nghwm Rhondda o 1928 ymlaen, a chodi achosion yn y maestrefi fel Dagenham yn 1928, ond camp fawr ei weinidogaeth oedd croesawu ac ymgeleddu y lliaws ieuenctid a dyrrai i Lundain ym mlynyddoedd y dirwasgiad, ar ei air ei hun, ‘bod yn gyfaill i Gymry ieuainc oddicartref', a chyda hynny chwyddo'r eglwys erbyn 1931 i dros fil o aelodau. Bu'n amlwg yn Llundain hefyd yn y cylchoedd Cymraeg, e.e. yn llywydd Cymdeithas Sir Gaerfyrddin 1954-56. Codwyd ef yn llywydd adran Gymraeg Undeb Bedyddwyr Cymru 1952-53, a thestun ei anerchiad yn Llandudno yn 1953 oedd ‘Yr Uchel Alwedigaeth’. Gwendid corff a'i gorfododd i ymddeol yn 1934 a thrachefn yn 1938, hynny ar ôl ei gymell i ailgydio yn 1937. Bu f. 10 Gorff. 1963 yn ei gartref yn 122 Rivermead Court, Hurlingham, ac amlosgwyd ei weddillion 13 Gorff. yn Golders Green. Cynhaliwyd cyrddau coffa iddo ym Moreia, Tonypandy, ac yn Castle Street 18 Gorff., ac yn Ramoth, Cwmfelinmynach, 21 Gorff. Pr. 18 Chwef. 1936 Gertrude Thomas (g. Crocker), Epsom. Bu hi f. 9 Rhag. 1942.

Llyfryddiaeth:

  • Llsgr. N.L.W. 10329;
  • Ser. Cymru, 8 Tach. 1901, 24 Tach. 1916, 28 Awst 1931, 15 Ion. 1943, 9 Tach. 1951, 12 Ion. 1962, 19, 26 Gorff., 9, 16 Awst 1963;
  • Y Greal, 1906, 51-2, 1908, 163;
  • Ser. G., 1953, 5-8;
  • Y Cymro, 25 Gorff. 1963;
  • Llawlyfr Bed., 1964, 118-19.
  • Bapt. Hdbk. 1964, 366;
  • Walter P. John a Gwilym T. Hughes, Hanes Castle Street…Llundain (1959), 72-3, 81-2;
  • WWP;
  • gwybodaeth gan Nansi Evans, Cwmfelinmynach.

Awdur:

Benjamin George Owens, M.A., Aberystwyth