Rhoes sylw arbennig i fapiau, ac y mae ei waith cyhoeddedig yn cynnwys Geological maps: their history and development, with special reference to Wales (1928); The map of Wales (before 1600 AD) (1935); a Humphrey Lhuyd's maps of England and Wales (1937), sy'n parhau i fod yn fonograff awdurdodol ar y testun.
Yr oedd yn un o haneswyr daeareg mwyaf gweithgar ei gyfnod. Y mae pob un o'i lyfrau cynulliadol yn cynnwys cyfoeth o ddefnydd hanesyddol. Ysgrifennodd hefyd fonograffau ar nifer o ddaearegwyr arolesol y 19eg ganrif: W. D. Conybeare (Bywg., 74), y Deon William Buckland, Charles Lyell, ac yn arbennig H. T. de la Beche, sefydlydd y Geological Survey of Great Britain, yr Amgueddfa Daeareg Ymarferol, a'r Royal School of Mines. Cyfrannodd lawer i'r Bywg. Cadwodd ddiddordeb byw yn hanes diwydiant yng Nghymru, yn arbennig y diwydiannau cloddio, ac yn ei hanfod ef oedd sefydlydd yr adran ddiwydiant a sefydlwyd yn yr Amgueddfa Genedlaethol yn 1958.
Yr oedd bob amser yn ymddiddori yng nghysylltiadau daeareg â phynciau eraill, fel y gwelir yn The stones of Llandaff cathedral (1958), Sunken cities, some legends of the coasts and lakes of Wales (1957), a Mining for metals in Wales (1962). Yr oedd yn guradur hyfedr a adeiladodd yr adran ddaeareg yn yr Amgueddfa ac a ysgrifennodd lawer ar waith curadur amgueddfa, yn cynnwys arweinlyfr safonol, Geology in museums (1939). Yr oedd yn gefnogwr brwd i alwedigaeth amgueddfa, a bu am flynyddoedd yn aelod o gyngor Cymdeithas yr Amgueddfeydd, cynllunydd ei diploma gyntaf, ac aelod o'r cyd-bwyllgor ag Ymddiriedaeth Carnegie yn y Deyrnas Gyfunol. Yr oedd hefyd yn aelod o'r corff cenedlaethol cydweithredol dros UNESCO. Uwchlaw'r cyfan yr oedd yn addysgydd selog a chenhadwr dros ei bwnc, ac yn ddarlithydd, adolygydd a chofnodydd diflino. Gweithredai'n gyson fel daearegwr ymgynghorol i gyrff cyhoeddus ar gynlluniau cadwraeth dŵr ac anturiaethau chwarelyddol. Cydnabuwyd ei gyfraniadau drwy iddo gael ei wneud yn llywydd (ac enillydd medal aur) Sefydliad Peirianwyr De Cymru, cymrawd anrhydeddus y Sefydliad Chwareli, ac aelod o bwyllgor y Weinyddiaeth Mwynfeydd ar y diwydiant llechi. Cafodd radd D.Sc. gan Brifysgol Llundain yn 1920 am waith ymchwil ar braciopodau ffosil, O.B.E. yn 1949 ‘am wasanaeth i wyddoniaeth yng Nghymru’, a D.Sc. Prifysgol Cymru er anrh. yn yr un flwyddyn pryd y dywedwyd: ‘iddo ef, o raid, tŷ dehonglwr yw amgueddfa’.
Pr. Ellen M. Pierce, Ticehurst, ym mis Mai 1915. Bu f. 23 Gorff. 1968 yn 19 Chargot Road, Caerdydd.
Douglas Anthony Bassett, Caerdydd