Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



O'NEILL, BRYAN HUGH ST. JOHN (1905-1954), archaeolegydd; g. 7 Awst 1905 yn Llundain, mab Charles Valentine O'Neill a Mabel Meliora (g. Rowe). Addysgwyd ef yn Ysgol Merchant Taylors a Choleg S. Ioan, Rhydychen (M.A.); etholwyd ef yn Gymrawd o Gymdeithas Hynafiaethwyr Llundain (F.S.A.) yn 1935. Pr. yn 1939 Helen Evangeline Donovan o Bourton-on-the water, sir Gaerloyw, hithau yn archaeolegydd.

Fe'i penodwyd i'r Swyddfa Gweithfeydd yn 1930 yn Arolygydd Cynorthwyol Henebion ar gyfer Cymru, i olynu C. A. Ralegh Radford. Dyrchafwyd ef yn 1945 i fod yn Brif Arolygydd Henebion ar gyfer Lloegr a Chymru. Yr oedd yn gyfrifol am gynghori ynglŷn â chadw a chyflwyno henebion a oedd o dan ofal y Wladwriaeth, ac am gofrestru'r rhai a oedd yn werth eu cadw, pwy bynnag a oedd eu piau. Yr oedd ei swyddfa yn Llundain, ac er treulio 15 ml. ar ei ddyletswyddau Cymreig, nid oedd ganddo anheddle yng Nghymru. Ymunodd â Chymdeithas Hynafiaethau Cymru yn 1931, a gwasanaethodd yn ddiweddarach ar ei Phwyllgor Cyffredinol. O'i 200 o gyhoeddiadau a restrwyd, yr oedd traean yn ymwneud ag archaeoleg Cymru; ymddangosent fel rheol yn Archaeologia Cambrensis, Montgomeryshire Collections neu fel cyhoeddiadau H.M.S.O. Fel arolygydd, yr oedd yn rhaid iddo ysgrifennu neu gomisiynu llawlyfrau awdurdodol ar henebion o bob cyfnod. Arbenigai mewn cestyll canoloesol. Yr oedd yn ddyfal ei gloddio, ac fe'i cofir yng Nghymru am ei waith ar fryngaerau cynhanesyddol Breiddin a Ffridd Faldwyn, Tfn., a Titterstone Clee, sir Amwythig.

Ymddiddorai mewn arian bath trwy gydol ei oes, ac etholwyd ef yn Gymrawd o'r Gymdeithas Numismatig Frenhinol. Teithiai'n eang, a chynhyrchodd adroddiad ar gais swyddogol ar gestyll arfordir y Traeth Aur (heddiw Ghana). Yr oedd yn weithiwr diwyd a chydwybodol, yn eglwyswr selog a dilynwr rygbi brwdfrydig. Bu f. 24 Hyd. 1954 yng Nghaeredin.

Llyfryddiaeth:

  • E. M. Jope, ‘Bryan H. St. John O'Neill: a memoir’, ‘The published works of B.H. St. J. O'Neill’, a phortread yn E. M. Jope (ed.), Studies in building history (1961);
  • Antiquaries Jnl., 35 (1955), rhif 3, 4, tt. 285-6;
  • Index to Arch. Camb. 1901-60, 211;
  • Www;
  • gwybodaeth bersonol.

Awdur:

Donald Moore, Aberystwyth