g. 3 Gorff. 1877 ym Mlaenyryrfa, Tal-y-sarn, Dyffryn Nantlle, Caern., yn un o wyth plentyn Hugh Owen (Bywg., 665) a Mary ei wraig. Pan oedd Owain yn ieuanc, symudodd y teulu i Fryn-y-coed yn yr un ardal. Yn 12 oed aeth y llanc i weithio yn chwarel y Gloddfa Glai a ‘Cornwall’ ar ôl hynny. Pan oedd yn 15 oed cymerodd at yrfa mewn newyddiaduriaeth a bu ar staff olygyddol Y Genedl Gymreig a'r Genedl a'r Herald wedi uno'r ddau bapur. Ymddeolodd tuag 1936 ond parhaodd i gyfrannu i'r wasg Gymraeg a Saesneg. Yr oedd yn newyddiadurwr medrus ac yn ohebydd gofalus. Gan fod ganddo ddawn y llenor a'r cerddor yr oedd ei erthyglau ar wyliau mawr y genedl yn gyfraniadau disglair yn y wasg newyddiadurol. Bu'n arwain cymanfaoedd canu yng Nghymru a Lloegr. Hyfforddodd lawer o gerddorion a bu'n beirniadu cerddoriaeth mewn mwy na 550 o eisteddfodau ac yr oedd rhaglenni'r rhain yn ei feddiant. Yr oedd yn gasglwr llyfrau craff a thystiai fod ei lyfrgell yn fwy helaeth nag un Bob Owen, Croesor (gw. isod Robert Owen). Yr oedd ganddo gôr bychan, ‘Côr y Delyn Aur’, a gafodd wobrau lawer mewn eisteddfodau. Yr oedd yn un o sylfaenwyr Clwb Awen a Chân yng Nghaernarfon, ac ef oedd ysgrifennydd y clwb. Cymerodd ddiddordeb mawr yn Urdd Gobaith Cymru yng Nghaernarfon o ddyddiau cynnar y mudiad, ac ef a ofalai am drefnusrwydd y gorymdeithiau ar achlysuron arbennig yn y dre. Bu'n selog yn achos dirwest gyda'r Rechabiaid a'r Temlwyr Da.
Cyhoeddodd nifer o gofiannau megis Fanny Jones (1907), Ieuan Twrog (1909), J. O. Jones (Ap Ffarmwr) (1912), T.E. Ellis (1916), Anthropos a Chlwb Awen a Chân (1946), Bywyd, gwaith ac arabedd Anthropos (1953), erthyglau yn Y Traethodydd a'r Drysorfa, Cerddoriaeth yng Nghymru (1946), a'r gwaith safonol Hanes y Ddrama yng Nghymru 1850-1943 (1948) sydd yn dalfyriad o'r traethawd a enillodd iddo'r wobr yn Eist. Gen. Bangor yn 1943. Ei wobr fawr gyntaf yn yr Eist. Gen. oedd am ‘Weithiau ac athrylith Llew Llwyfo’ ym Mae Colwyn yn 1910, pryd yr enillodd R. Williams Parry (gw. isod) y gadair am awdl ‘Yr Haf’. Trefnwyd gorymdaith gyda seindorf Nantlle ar y blaen i groesawu'r ddau adre o'r eist. honno.
Pr. (1) Claudia Roberts, 12 Meh. 1916 a bu iddynt un ferch. Bu f. ei wraig 29 Tach. 1918 a phr. (2) yn 1921 Enid May Jones, Y Felinheli. Bu f. yn ei gartref Bryn-y-coed, 10 Pretoria Avenue, Caernarfon, 8 Ion. 1956 gan adael gweddw, a mab a merch. Amlosgwyd ei weddillion ym Mhenbedw.