Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



OWEN, Syr GORONWY (1881-1963), gwleidydd; g. 22 Meh. 1881 ym Mhen-llwyn, Aberystwyth, Cer., mab ieuengaf Abraham Owen a'i wraig Margaret (g. Sylvanus Williams). Derbyniodd ei addysg yn ysgol Ardwyn, Aberystwyth, a C.P.C., Aberystwyth. Graddiodd yn M.A. Bu'n gweithio fel ysgolfeistr a darlithydd yn bennaf yn Llundain am rai blynyddoedd cyn Rhyfel Byd I. Yr oedd yn un o'r rhai a ffurfiodd fataliwn Cymry Llundain yn 1914. Gwasanaethodd yn y fyddin yn Ffrainc yn ystod y rhyfel, soniwyd amdano ddwywaith mewn cadlythyrau, derbyniodd y D.S.O. yn 1916, a chafodd ei ddyrchafu'n uchgapten ac yna'n uchgapten â gofal brigâd. Daeth yn fargyfreithiwr yn Gray's Inn yn 1919. Eto yr oedd yn amlwg mai ym myd cyllid, masnach a gwleidyddiaeth yr oedd ei ddiddordebau'n bennaf. Daeth yn aelod o Gyfnewidfa Stoc Llundain, yr oedd yn gyfarwyddwr nifer o gwmnïau ac yn aelod o nifer fawr o gymdeithasau busnes a masnach.

Safodd fel ymgeisydd Rhyddfrydol yn ne swydd Derby yn 1922. Soniwyd amdano fel ymgeisydd posibl ar gyfer etholaeth Prifysgol Cymru, ond etholwyd ef yn sir Gaernarfon yn 1923, a pharhaodd i gynrychioli'r etholaeth yn y senedd hyd 1945. Yr oedd yn aelod o grŵp teuluol David Lloyd George (Bywg. 2, 39-40) a wrthwynebodd ffurfio'r llywodraeth genedlaethol yn 1931. Ef oedd chwip y Blaid Ryddfrydol rhwng 1926 ac 1931 a daliodd swydd Comptroller of the Household ac yr oedd yn brif chwip y Rhyddfrydwyr yn ystod Medi a Hyd. 1931. Gorchfygwyd ef gan Goronwy Roberts (Llafur) yn etholiad cyffredinol 1945, a dewisodd beidio â sefyll fel ymgeisydd ar ôl hynny.

Yr oedd yn ddirprwy raglaw sir Gaernarfon yn 1936 ac yn aelod o'r cyngor sir am flynyddoedd. Daeth yn henadur y cyngor ym mis Mai 1945 fel olynydd D. Lloyd George. Yr oedd ganddo ddiddordeb arbennig yn anghenion a phroblemau'r sir ac yr oedd yn barod bob amser i roi o'i amser i geisio eu datrys. Bu'n gadeirydd y Pwyllgor Cyflogau Amaethyddol ar gyfer Môn a Chaernarfon ac yn ddiweddarach ar gyfer Trefaldwyn a Meirionnydd, ac yn gadeirydd y Territorial and Auxiliary Forces Association ym Môn ac Arfon. Gwasanaethodd hefyd fel swyddog y sir ar gyfer lles y fyddin. Bu'n is-gadeirydd, 1954-55, ac yn gadeirydd, 1955-56, Awdurdod Heddlu Gwynedd, ac yn uchel siryf sir Gaernarfon yn 1950-51. Dewiswyd ef yn ynad heddwch dros y sir. Yr oedd yn awdur nifer fawr o erthyglau mewn cylchgronau Cymraeg a Saesneg. Derbyniodd ryddfraint bwrdeistref Conwy yn 1943 ac urddwyd ef yn farchog yn 1944.

Pr. yn 1925, Margaret Gladwyn, gweddw Owen Jones, Glanbeuno, Caern. (ef a gododd y gofeb i D. Lloyd George ar Y Maes, Caernarfon) a merch David Jones, masnachwr glo yn Ninbych. Yr oedd hi'n chwaer i wraig Gwilym Lloyd George (gw. uchod, LLOYD GEORGE, TEULU). Bu Goronwy Owen f. 26 Medi 1963.

Llyfryddiaeth:

  • Www;
  • WwW (1921) ac (1937);
  • The Times, 27 Medi 1963;
  • Dod's Parliamentary Companion;
  • WWP.

Awdur:

Dr John Graham Jones, Aberystwyth