Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



OWEN, HUGH (1880-1953), hanesydd; g. 8 Mai 1880 yn Niwbwrch, Môn, yn fab i Hugh a Jane Owen. Symudodd y teulu i Aigburth, Lerpwl, yn 1883. Addysgwyd ef yn ysgolion S. Michael's Hamlet ac Oulton, a Phrifysgol Lerpwl. Wedi derbyn tystysgrif dysgu yn 1901 bu'n athro hanes mewn ysgolion yn Llundain, Lerpwl a Threffynnon cyn ei benodi'n bennaeth yr adran hanes yn ysgol Llangefni yn 1918, swydd y parhaodd ynddi nes iddo ymddeol yn 1944.

Flwyddyn wedi iddo ddychwelyd i Fôn fe'i hetholwyd yn olygydd cylchgrawn Cymdeithas Hynafiaethwyr a Naturiaethwyr y sir ac ef a fu'n gyfrifol am y cylchgrawn am yr ugain ml. nesaf. Rhwng 1920 ac 1949 cyhoeddodd yn y cylchgrawn nifer o ffynonellau hanesyddol Môn wedi eu golygu ganddo ef, megis cofnodion llys sesiwn chwarter Môn, 1768-88 (1924); cyfrifon beilïaid Biwmares, 1779-1805 (1929); llyfr cofnodion bwrdeistref Biwmares, 1694-1723 (1932) a dyddiadur Bulkeley Dronwy (1937). Golygodd hefyd Braslun o hanes Methodistiaid Calfinaidd Môn, 1880-1935 (1937); ac, ar y cyd â Gwilym Peredur Jones, Caernarvon court rolls, 1361-1402 (1951), a chyhoeddodd y llyfrau canlynol: The life and works of Lewis Morris (Llywelyn Ddu o Fôn) 1701-1765 (1951), The history of Anglesey constabulary (1952) a Hanes plwyf Niwbwrch (1952). Traethawd buddugol mewn cystadleuaeth yn Eist. Gen. Dolgellau, 1949, ar hanes unrhyw blwyf yng Nghymru oedd yr olaf. Nid y leiaf o'i gymwynasau, fodd bynnag, oedd ei waith ar lythyrau'r Morysiaid, sef mynegai cynhwysfawr i J.H. Davies (gol.), The Morris letters (1907, 1909) a ymddangosodd yn y cylchgrawn rhwng 1942 ac 1944, ac Additional letters of the Morrises of Anglesey yn ddwy ran, Y Cymmr., 49 (1947, 1949).

Dyfarnodd Prifysgol Lerpwl radd M.A. iddo yn 1914 am ei draethawd ymchwil, ‘Pre-Edwardian castles in north Wales’. Yn 1916 etholwyd ef yn gymrawd o'r Royal Historical Society ac yn gymrawd o Gymdeithas Hynafiaethwyr Llundain (F.S.A.) yn 1924.

Pr. yn 1913 â Marian Owen o Fethesda, Caern., athrawes yn ysgol sir Bangor. Bu f. 18 Maw. 1953 yn Rhosyr, Llanfair Pwllgwyngyll.

Llyfryddiaeth:

  • Papurau Hugh Owen yn LlGC (heb eu catalogio);
  • Herald Môn, 30 Maw. 1953;
  • Y Clorianydd, 31 Maw. 1953;
  • Môn, 1 (1954).

Awdur:

Glyn Parry, Synod, Llandysul