Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



OWEN, HUGH JOHN (1880-1961), cyfreithiwr, awdur a hanesydd lleol; g. 5 Chwef. 1880 ym Mhwllheli, Caern., yn fab i John Owen, master mariner, a'i wraig Elizabeth (g. Hughes). Addysgwyd ef yn ysgol ramadeg y Bala. Ar ôl cwblhau ei dymor erthyglau gyda chwmni Robyns-Owen, Pwllheli, a'i dderbyn yn gyfreithiwr yn 1903, ymunodd ag adran gyfreithiol cyngor sir Llundain. Gwasanaethodd gartref ac yng ngwlad Groeg gyda'r R.A.O.C. yn Rhyfel Byd I ac enillodd reng Capten. Penodwyd ef yn glerc yr heddwch ac yn glerc cyntaf llawn-amser i gyngor sir Meirionnydd yn 1920, swyddi a ddaliodd gydag urddas hyd nes iddo ymddeol ym mis Mawrth 1954. Gwnaed ef yn ddirprwy raglaw y sir yn 1949.

Un o'i brif ddiddordebau oedd hanes lleol a llwyddai'n ddieithriad i drosglwyddo'i frwdfrydedd i eraill. Ef a fu'n bennaf gyfrifol am sefydlu Cymdeithas Hanes a Chofnodion Sir Feirionnydd yn 1939. Gwnaed ef yn is-lywydd y Gymdeithas a bu'n gadeirydd ymroddedig i'w chyngor o'i chychwyniad hyd ei farwolaeth. Bu'n flaenllaw hefyd dros sefydlu swyddfa cofysgrifau Meirionnydd yn 1952 a thros benodi archifydd sirol. Cynrychiolodd gyngor sir Meirionnydd ar lys llywodraethwyr Ll.G.C. o 1934 hyd ei farwolaeth. Yr oedd yn ymchwiliwr dyfal a gweithiai'n ddi-baid ar bob math o gofysgrifau lleol, ac yn neilltuol ar rai llys sesiwn chwarter Meirionnydd. Cyhoeddodd bum cyfrol: The Merioneth Volunteers and local militia during the Napoleonic Wars (1934); Echoes of old Merioneth (1944); Sir Love's adventures in Spain (1945); The treasures of the Mawddach (1950) a From Merioneth to Botany Bay (1952). Cyfrannodd rhwng 1951 ac 1961 nifer o erthyglau i Cylchgrawn Cymdeithas Hanes a Chofnodion Sir Feirionydd. Diogelir ei bapurau, yn briodol iawn, yn y swyddfa gofysgrifau yn Nolgellau. Ni bu'n briod. Bu f. ym Mhwllheli 29 Meh. 1961 a chladdwyd ef ym mynwent eglwys Sant Hywyn, Aberdaron.

Llyfryddiaeth:

  • Cylch. Cymd. Hanes Sir Feirionydd, 4, 1-2;
  • Edgar Stephens, The Clerks of the Counties 1360-1960 (1961);
  • WwW (1926);
  • The Times, 1 Gorff. 1961;
  • Liv. D.P., 1 Gorff. 1961;
  • Camb. News, 7 Gorff. 1961;
  • Y Dydd, 7, 14 Gorff. 1961.

Awdur:

Arwyn Lloyd Hughes, Llandaf