OWEN, Syr ARTHUR DAVID KEMP (1904-1970), gweinyddwr cydwladol;
g. 26 Tach. 1904, yn fab hynaf Edward Owen, gweinidog eglwys Crane Street (B), Pont-y-pŵl a symudasai ychydig fisoedd ynghynt o eglwys Bethel (B), Tonypandy, a'i wraig Gertrude Louisa, merch Thomas Henry Kemp (a fuasai'n ysgolfeistr nodedig yn Nhal-y-bont, Ceredigion, o 1865 i 1892 ac yn feistr yn yr adran Normal yng Ngholeg Prifysgol Cymru o 1892 i 1894, pryd y symudodd i fod yn brifathro canolfan hyfforddi athrawon Merthyr Tudful). Symudodd y teulu o Gymru yn 1908 pan sefydlwyd y tad yn weinidog ar eglwys Hope, Hebden, ger Leeds, ac yn ysgol ramadeg a Phrifysgol Leeds yr addysgwyd David Kemp fel y gelwid ef yn gyffredin. Graddiodd mewn economeg ac astudiaethau masnachol a chymryd gradd M.Com. yn 1929. Bu'n gyfarwyddwr i bwyllgor arolwg cymdeithasol yn Sheffield, 1929-33, ysgrifennydd adran ddinesig Cynllunio Gwleidyddol ac Economaidd (P.E.P.), 1933-36, cyd-gyfarwyddwr Ymchwil Diweithdra'r Pilgrim Trust, 1936-37, darlithydd mewn dinasyddiaeth ym Mhrifysgol Glasgow, 1937-40, ac ysgrifennydd cyffredinol P.E.P., 1940-41. Yn 1942 daeth yn gynorthwywr personol i Syr Stafford Cripps yn swyddfa Arglwydd y Sêl Gyfrin i ddechrau, ac yna yn y Weinyddiaeth Cynhyrchu Awyrennau. Yr oedd yn aelod o genhadaeth Cripps i'r India yn 1942. Bu'n aelod o Adran Adlunio'r Swyddfa Dramor gyda gofal am faterion Cynghrair y Cenhedloedd, 1944-45. Yr oedd yng nghynhadledd y Cenhedloedd Unedig yn San Francisco yn 1945, a daeth yn un o brif weinyddwyr y Cenhedloedd Unedig o 1946 hyd ei ymddeoliad yn 1969. Gweithredodd ar fwrdd golygyddol yr Encyclopaedia Britannica o 1959 i 1968. Yr oedd yn gredwr diysgog yn egwyddor cydweithio rhwng cenhedloedd; bu ei wasanaeth i'r Cenhedloedd Unedig yng nghyfnod ffurfio'r gyfundrefn yn allweddol, ac enillodd edmygedd cyffredinol. Yn ddiamau, yr oedd dylanwad ei dras anghydffurfiol Gymreig yn drwm ar ei ddelfrydau, a synhwyrid fod atsain Gymreig yn ei leferydd. Ychydig cyn ei farw, gwnaethpwyd ef yn ysgrifennydd cyffredinol Ffederasiwn Cydgenedlaethol Cynllunio Cenhedlu.
Pr. yn 1933 Elizabeth Joyce, merch E. H. Morgan, gweinidog (EF). Bu iddynt fab a merch. Wedi ysgariad yn 1950 pr. Elizabeth Elsa Miller, a bu iddynt ddau fab. Bu f. yn ysbyty S. Thomas yn Llundain 29 Meh. 1970, wedi ei wneud yn K.C.M.G. y fl. honno. Yn ychwanegol at gyhoeddi ei adroddiadau ar yr arolwg ar Sheffield yn 1931-33, cyhoeddodd British Social Services yn 1940, a llu o gyfraniadau i gyfnodolion. Rhoes Prifysgol Cymru radd LL.D. er anrh. iddo yn 1969. Cawsai radd gyffelyb gan Brifysgol Leeds yn 1954.
Awdur:
Evan David Jones, F.S.A., (1903-87), Aberystwyth