OWEN, DAVID SAMUEL (1887-1959), gweinidog (MC);
g. 12 Mawrth 1887 yn Rhuthun, Dinb., mab Samuel a Harriet Owen. Addysgwyd ef yn ysgolion elfennol Rhuthun ac Abergele; ysgol sir Abergele; Coleg y Brifysgol, Bangor (lle graddiodd yn y celfyddydau); a Choleg Diwinyddol Aberystwyth. Dechreuodd bregethu yn 1905 ym Methlehem, Bae Colwyn. Ord. ef yn 1913, a bu'n weinidog yn Siloh, Llanelli (1913-15) cyn ei alw i eglwys Jewin, Llundain, a chael gyrfa lwyddiannus yno hyd ddiwedd ei oes. Er mawr ofid iddo dinistriwyd capel hardd Jewin gan fomiau'r gelyn yn ystod Rhyfel Byd II, a dychwelodd llawer o'r aelodau i Gymru. Er hynny daliodd ati'n ddygn gyda'r gweddill, eithr ni chafodd fyw i weld codi addoldy newydd ar sylfaen yr hen. Pr., 1913, Gracy Jones, Glan Conwy; ganwyd iddynt ddau fab a thair merch. Bu f. 26 Mawrth 1959, a chladdwyd ef ym mynwent Bron-y-nant, Bae Colwyn.
Yr oedd yn bregethwr grymus a phoblogaidd, a galw mawr am ei wasanaeth yng Nghymru. Bu'n llywydd Sasiwn y Gogledd (1954). Rhagorodd er yn ieuanc fel adroddwr ar lwyfannau eisteddfodol, a bu'n beirniadu'n gyson ar hyd y blynyddoedd ar gystadleuthau adrodd yn yr Eist. Gen.
Llyfryddiaeth:
- Www (1921), 347;
- Y Goleuad, 1, 8 and 22 Ebr. 1959;
- Drys., Medi 1959;
- Blwyddiadur MC, 1960, 270-271;
- G. M. Roberts, Y ddinas gadarn (1974), penodau 9-10;
- adnabyddiaeth bersonol.
Awdur:
Y Parch. Gomer Morgan Roberts, M.A., (1904-93), Pont-rhyd-y-fen / Llandudoch / Llandybïe